Edrych mlaen i Sesiwn Unnos heno
Helo helo helo.
Helo.
Helo.
Dyma ni, nol ar drothwy cyfres newydd sbon o Sesiwn Unnos.
Dwi di blino'n barod a da ni heb hyd yn oed cychwyn eto.
Dwi'n beio seddi anghyfforddus Arriva trains Wales, a'r holl diet pills na dwi di bod yn llowcio ers byta gormod o gig a caws dros y dolig.
Dwi am ddefnyddio symbolau gwahanol y cyfrifiadur nawr i drio cyfleu y cyffro dwi'n teimlo yr eiliad yma....
°ª´Ê:°ª!"£$%%%°÷&²¹³¾±è;*()³å()()³å³å³å+++??????°ª°ª:°ª+°¨´Ê°¨°¨°¨°¨°¨°¨°¨°¨°¨
Dwi'n licio'r cromfach bach sy' di pinsho ar y diwedd mwya.
DA!
Dwi newydd glywed swn tri ceffyl anferthol yn gweryru'n fwystfilaidd tu allan i'r Ö÷²¥´óÐã ym Mangor, sy'n golygu unai ma' Cowbois Rhos Botwnnog di cyrraedd neu ma hi'n ddiwedd y byd a ma un o farchnogion y datguddiad wedi mynd ar goll ym Mangor Uchaf (di cymryd detour bach i falu chydig o stiwds siwr o fod).
Y tri brawd o Benllyn a'i cyffeillion sydd efo ni heno, dwi heb gwrdd a'r 'cyfeillion' eto ond am y tro newn ni alw nhw'n Miss Piano a Mr Trwmped. Fydd y Cowbois yn cael eu gorfodi i weithio gyda'r unig fenyw yng Nghymru sydd wedi byw ar y stryd, gweithio i gylchgrawn Golwg, sgwennu cyfrolau o farddoniaeth ag ennill cadeiriau mewn eisteddfodau (arwahan i Mami sydd yn dal i farddoni, ar thop ei llais, ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd tra'n taro biniau sbwriel efo esgyrn ceffyl).
Mae hi hefyd yn cyfrannu i Golwg yn achlysurol, (ond heb gal un o'i traethodau am daioni byta gwallt wedi cyhoeddi...eto) dwi'n son wrth gwrs am Karen Owen.
'Swn i'n feddwl fydd heno yn weddol syml o rhan cydweithio.
Cowbois yn sgwennu caneuon canu gwlad perffaith, gyda geiriau blodeuog Karen Owen yn lliwio'r melodiau fel paent amryliw llenyddol.
Ond does dim byd yn syml am 4 o'r gloch y bore, arwahan i cysgu.
Ond sneb yn cal cysgu.
Reit, diet pills i bawb a coffi poeth lawr 'i cyrnau.
Dwin meddwl bod Karen Owen newydd gyrraedd y Ö÷²¥´óÐã, yn cario
be sy'n edrych fel Bassoon....hmmmmm.....falle fydd heno
ddim mor syml a hyne...
Huw