Unnos: Yr Ods/Plyci/KimDeBills/RaceHorses
Noswaith dda gyfeillion annwyl,
Gan ein bod ni wedi dechre wythnos ddiwethaf trwy son am y ffaith bo' fi 'di blino cyn cychwyn yn dilyn siwrne tren anghyfforddus, o'n i'n meddwl 'swn i'n neud yr un peth eto wythnos yma.
Cwestiwn sydd gynai, a'r cwestiwn yw: pwy sy'n taflu bag plastig yng ngwyneb
rhwyn sy'n cysgu?
Dyna ddigwyddodd i mi ar y ffordd yma ar y tren, cysgu'n sownd un munud, munud nesaf trafferthion anadlu a logo archfarchnad sy'n odli efo grotesque-o yn fy wyneb.
Y diawled.
Y peth mwyaf rhyfedd am hyn yw; wrth ddeffro, doedd 'na neb arall yn cerbyd heblaw hen ddyn oedd hefyd yn cysgu.
Felly'r cwestiwn nesaf yw...pa fath o hen ddyn sick sy'n taflu bag plastic yng
ngwyneb rhwyn sy'n cysgu a wedyn rhedeg 'nol i'w sedd ag esgys cysgu?
Credwch chi ddim - HARRI PARRI...yr hen ddyn digwylydd.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Cowbois wythnos ddiwethaf, mae'r bar safon
dychmygol wedi cael ei godi yn llythrenol oddeutu 4 modfedd wythnos yma.
Oes gan aelodau Yr Ods, Race Horses, Plyci (Gerallt Ruggiero) a Carwyn
Kim De bills (Genod Droog, Haky Tokinawa) 4 modfedd o safon rhyngthyn nhw?
Dwi'n eitha ffyddiog fod ganddyn nhw, ma nhw'n barod yn honni bod nhw am
neud 6 can wythnos yma, gewn ni weld.
Reit, dwi off i weld os ellai ffeindio Harri Parri ar Facebook.
Tan tocs.
HE
Nodyn cyfreithiol gan y cynhyrchwyr - NID yr Harri PArri go iawn oedd o, oce?