Cerddoriaeth i gyd-fynd hefo Sesiwn Unnos
Os yda chi'n mwynhau'r gerddoriaeth sy'n cael ei greu gan Eilir Pierce, Seiriol Cwyfan a Trwbador, dyma fwy o gerddoriaeth yn yr un ysbryd!
Band gwallgo o Brooklyn, Efrog Newydd, sy'n perfformio'n fyw hefo pump laptop, ac wedi cynhyrchu album gwych i fand o'r enw Fly Girls.
O bosib un o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru erioed. Yn debyg i'r Velvet Underground, nath o'm gwerthu lot ar y pryd, ond fe wnaeth pawb oedd yn ei glywed ffurfio grwp!
Roedd Basil yn ddrymiwr ac yn cyfansoddwr cerddoriaeth arbrofol; mae rhai yn dweud mai Basil oedd tad cerddoriaeth 'ambient'. Mae llawer o'i gerddoriaeth wedi ei ail rhyddhau gan y Label anhygoel Trunk Records.
Trac sain o film story Dr.Zeus The 500 Fingers of Dr.T. Well na unrhywbeth wnaeth Jim Carrey.
Does ddim angen cyflwyniad i'r Gorkys gobeithio? Ewch mlaen a mwynhewch!
Deuawd o adeg Punk a New Wave Efrog Newydd, yn enwog am eu perfformiadau byw anodd. Cerddoriaeth di-faddeuant electro pync cynnar....
Mae John Cale yn ddyn blin medda nhw, ond mae'n bosib mai fo ydy'r Cymro mwyaf cool erioed. Roedd on aelod o'r Velvet Underground cyn cael ei daflu allan ddwy waith, yr ail waith trwy fax.
Mae La Decadanse yn swnio'n debyg i Degadawns dydi? Ella fod hynny'n rhywbeth i'w wneud a'r ffaith fod Eilir Pierce yn ffan ENFAWR
Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã (yn enwedig fi a Dyl Mei) yn gyfrifol am unrhyw wefannau a restrir yma.