Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dodd Com

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw C2 Criw C2 | 16:07, Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2011

Helo!
Catrin Herbert yma eto!

Dwi 'di bod yn cyflwyno gyda Gruff ers dros wythnos nawr a dwi ffili credu taw dim ond 2 sioe sy 'da ni ar ôl! Wythnos diwetha' ces i'r fraint a'r anrhydedd o gael (er yn answyddogol) agor yr Eisteddfod Rhyng-golegol. Cefais yr her gan Gruff i gystadlu mewn dau o'r cystadleuthau o restr yr Eisteddfod, sef y limerig a'r ddeuawd ddoniol.
Diolch o galon i fy ffrind annwyl Catrin Tomos o Fangor am gytuno i neud ffwl llwyr o'i hun gyda fi ar Dodd Com, drwy ganu ein fersiwn, ymm...unigryw ni o "Paid a Bod Ofn" gan Eden fel ein cais ni ar gyfer y Ddeuawd Ddoniol! Mae'n deg i ddweud nad oedd Gruff yn hollol siwr y bydde ni'n ennill y gystadleuaeth petawn ni wedi cystadlu'n iawn, ond ddoe daeth un o drefnwyr y Steddfod Rhyng-Gol sef Aled Thomas i sôn am lwyddiant y penwythnos ac i roi ei farn ar fy ngeisiadau i a dwi'n siwr taw jest bod yn neis oedd e, ond roedd ganddo fe pethau lot neisach i ddweud amdanyn nhw na Gruff. Ond yn anffodus, y barn cyffredinol oedd bod ein deuawd ddim cweit o'r safon orau! Caerdydd enillodd y Steddfod felly llongyfarchiadau iddyn nhw ac i bawb arall wnaeth gymeryd rhan.

Roedden ni hefyd yn lwcus iawn o gael cwmni Gerallt Rhys yn y stiwdio nos Wener dwetha'. Roedd e yma'n rhoi ei farn ar draciau'r wythnos yn 'Bin neu Sbin', dewisodd e i roi sbin i "Kids" gan Take That, er, dwi ddim yn siwr ei fod e wedi dwli gormod ar ddim un o'r traciau! Ond ewch i wylio fideo o bois Take That yn canu'r gân yn y Brits i weld os 'y chi'n cytuno gyda Gerallt.

Dwi'n edrych mlaen at y sioe heno 'ma, gan y byddwn ni'n chwarae sengl newydd sbon , sef "Bedd". Dyma eu trydedd sengl nhw eleni. Mae'r band o Fangor yn mynd i fod yn rhyddhau un sengl bob mis am y chwe mis nesa.
Dwi heb ei chlywed hi eto, on dos yw hi unrhyw beth fel y ddw arall sef "She Said" a "Cyllell", dylse hi fod yn hollol wych!

clawr bedd

Byddwn ni hefyd heno yn cael sgwrs gyda Mari a Mirain o Ysgol Maes yr Yrfa,
nhw fydd yn adolygu ffilm newydd Justin Bieber i ni, sef "Never Say Never". Ac wrth gwrs bydda' i unwaith eto'n gweini hoff bryd pawb o'r dwrnod, y Tatws Poeth!

Hwyl am y tro!

Catrin

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.