Nos Fawrth, Noson a Hanner!
Nosweth dda unwaith eto. Fi Ifan Evans sy ma yn barod i'ch diddanu (gobitho)! Dwi di bod yn ofnadw o brysur ers wthnos dwetha. Ma'r wyn bach di dechre cyraedd ar y fferm, a dros y penwythnos fues i lawr yn Theatr y Grand yn Abertawe yn arwain ar y llwyfan yng nghystadleuaeth hanner awr o adloniant Mudiad y Fermwyr Ifanc, a mi odd hi'n benwythnos gwych. Pawb wedi joio mas draw!
Ma genai raglen llawn dop i chi heno unwaith eto, yr actor adnabyddus Aled Pugh yw fy ngwestai arbennig, a fe felly fydd yn dod ar Ifan yr Injan, ond i ble fydd y tren bach yn mynd heno tybed? A mi fydd y gwr drwg - Owain Llyr yn ymuno a fi fel arfer i edrych yn ol ar chwaraeon y penwythnos. Digon o hwyl a lot o chwerthin rhwng 10 a 12 felly ar c2. Cofiwch wrando!