Pancos Pen-blwydd!
Mae heddiw'n ddiwrnod gwych a gwallgo i griw Dodd Com. Byddai'r ffaith ei bod hi'n ddiwrnod crempog yn esgus digon da i gael dathliad hanner pan ond mae hi hefyd yn ben-blwydd ar yr hyfryd Magi Dodd! Achlysur am barti os buodd 'na un erioed!
Daeth Greta Isaac o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg sy'n gogyddes o fri i'r stiwdio i osod her i'r criw i greu crempogau teilwng i ddathlu pen-blwydd ein Brenhines Bop. A dyma'r canlyniadau...
Cofiwch wrando am saith o'r gloch ar y we i weld pwy ddaeth i'r brig...