Gwobrau Roc a Phop Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 2011
Roedd cyffro o fore tan nos (Dydd Iau, Ebrill 7) wrth i Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru ddatgelu enillwyr Gwobrau Roc a Phop Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 2011 ar amrywiol raglenni'r orsaf drwy gydol y dydd.
Yn ogystal â datgelu enillwyr y gwahanol gategorïau, a benderfynir gan banel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth, darlledwyd sesiynau byw a chyfweliadau gan ddechrau gydag enillwyr cynta'r dydd sef , a enillodd wobr Band Gorau 2010 ar raglen Dafydd a Caryl.
Roedd eisioes wedi ei gyhoeddi fel enillydd Cyfraniad Arbennig ar yr orsaf dydd Llun.
"Mae Gwobrau Roc a Phop Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru," meddai Sian Gwynedd, Golygydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru a Theledu Cymraeg. "Mae'r gwobrau, sydd yn cael eu dewis gan gynrychiolwyr sy'n cynnwys labeli, hyrwyddwyr a threfnwyr gigs, yn ddathliad o'r holl gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Eleni roedd y Gwobrau yn ymestyn drwy gydol y dydd ar Radio Cymru gydag enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglenni Dafydd a Caryl, Nia a Geraint Lloyd a bu nifer o sesiynau byw gan wahanol fandiau hefyd.
"Yr wyf yn arbennig o falch fod Gwobr y Cyfraniad Arbennig wedi ei ennill eleni gan Steve Eaves. Mae ei gyfraniad i'r sîn roc yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy ac mae yna barch mawr tuag ato."
Dyma restr enillwyr Gwobrau RAP Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 2011:
Cyfansoddwr y flwyddyn
Can y flwyddyn
- Dolphin Pinc a Melyn
Artist Benywaidd y Flwyddyn
Cynhyrchydd y Flwyddyn
Gwobr Siart C2 ( y grwp sydd wedi bod ar frig y siart amlaf )
Digwyddiad Byw y Flwyddyn
Artist Gwrywaidd y Flwyddyn
Sesiwn C2 y flwyddyn
Y Gwylanod
Grwp a ddaeth i amlygrwydd
Band Byw y Flwyddyn
Albwm y Flwyddyn
- Y Niwl
Band neu Artist y Flwyddyn
Gwobr Cyfraniad Arbennig
Gallwch wrando ar sesiynau o'r noson ar wefan Gwobrau RAP 2011.
SylwadauAnfon sylw
Mae arna'i ofn nad oedd y 'cyffro' yn trosglwyddo ar y radio. Roedd pawb yn swnio fel bod nhw'n trio bod yn gyffrous, ond jest yn eitha bored. Dydi cael 5 o bobol mewn stiwdio yn mynd 'hwre' ddim yn gwneud awyrgylch o gyffro.