Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfweliad blog gan Gruff Rhys

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 13:14, Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011

Haia!
Edrych ymlaen ar Gwyl Gardd Goll erbyn hyn! O'n i'n meddwl bysa chi'n licio darllen cyfweliad wnaeth Dyl Mei hefo Gruff Rhys ar gyfer rhaglen yr wyl eleni. Dyma fo!
Lis
x

1.Yn 1976, rhyddhawyd ffilm o'r enw "One Hour to Zero" wedi ei leoli mewn pentref ffug o enw "Llynfawr", ond wedi ei ffilmio yn Nhrawsfynydd.
Mae'r ffilm yn dilyn criw o blant sy'n ceisio ffoi'r ardal ar ol rhybudd y bydd y pwerdy niwclear lleol yn chwythu fyny. Os bysa chdi yn Nhrawsfynydd
neu "Llynfawr"(... o bosib yno i drwsio sgidia) y diwrnod yna, be fysa chdi'n neud hefo dy awr olaf?

Efallai ymweliad a'r fferyllfa leol, neu'r dafarn gymunedol newydd yn Llanffestiniog, eistedd yn ol, a mwynhau'r olygfa; Apocalypse dros Ardudwy.

Mae'r bobl sy'n cefnogi agor atomfa newydd yn ynys Mon yn hollol wallgo! Yn enwedig os ydynt yn poeni am ddyfodol yr iaith! 'Bydd neb ar ol i adrodd yr hanes' mewn gair: 'Fukushima'


2.Faenol ta Finyl?
Yr hen gwestiwn, beth ydi Stad y Finyl?

3.Wyt ti ychydig yn siomedig na fydd Bryn Terfel yn ymuno hefo chi ar y llwyfan i berfformio, fel oedd yn digwydd mewn gŵyl arall oedd arfer digwydd yma?
Dwi'n caru Bryn Terfel, felly, ydw, Siomedig iawn.

4.Os fysa rhywun ddigon gwallgo' i ail neud y ffilm "Gwaed ar y Ser", pa sêr fysa chdi'n hoffi eu gweld yn serennu? Fel y dioddefwyr ac fel y llofrudd? A fysa'n bosib lladd rhywun mewn ffordd fwy anhygoel na rhoi Trydan trwy delyn?
Syniad Gwych! Efallai gallai arwr or byd chwaraeon gael ei gywasgu gan do symudol stadiwm y mileniwm. (mewn CGI 3-D)

5.Wedi llwyddiant y gigs hefo'r Niwl, oes bwriad i recordio unrhyw ddeunydd hefo'r grŵp?
Da ni wedi recordio soundtrack gyda'n gilydd i ffilm gan Phil Collins (go iawn!)

6. Ti'n ymddangos fel gwenynwr yn fideo i'r sengl "Honey All Over". Oes gen ti unrhyw gyngor i fynychwyr Gwyl Gardd Goll ar sut i osgoi cael eu pigo gan wenyn?

Peidiwch gadael eich pabell!

7.Sut brofiad oedd perfformio ac aros yn y gwesty Tony ac Aloma y Gresham yn Blackpool?

Ysgytwol! Does neb yn gresynu ymweliad a'r Gresham.

8. Yda ni'n debygol o weld cerddoriaeth y ffilm Seperado yn cael ei rhyddhau?

Gobeithio, main glamp o albwm; Mae o i gyd yn barod iw ryddhau unwaith dwi'n cytuno gyda dosbarthwr. Mae ynddi 8 can newydd, 10 darn offerynol a caneuon ychwanegol gan Kerdd Dant a gwesteion eraill.

9.Be fysa'r News of the World yn debygol o glywed os fysant nhw'n torri mewn i dy negeseuon ffôn symudol?
Dim byd o lawer o bwys.

10. Ac yn olaf, dwi ar ddallt mai hwn fydd y tro gyntaf i Echo and the Bunnymen a Badly Dawn Boy perfformio mewn gwyl yng Ngogledd Cymru. Oes gen ti unrhyw gyngor sa chdi'n pasio blaen iddynt ar sut i blesio cynulleidfa llawn Cymru?

Perfformio o flaen union jack anferthol.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.