Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Angen @ebion?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw C2 Criw C2 | 13:18, Dydd Llun, 19 Medi 2011

Mae cyfres newydd ar wasanaeth C2 Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn cynnig lle i bobol ifanc drafod pethau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw yn onest a di-flewyn ar dafod.

Bydd @ebion, sy’n dechrau nos Fercher, Medi 21, 10pm, yn gyfres o wyth rhaglen fyw fydd yn taclo themâu amrywiol ac anodd yn aml, yn eu mysg delwedd, anabledd, rhywioldeb, bwlio ac alcohol a chyffuriau. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i bobol ifanc rannu profiadau ac ymateb yn uniongyrchol i’r pynciau a’r trafodaethau trwy decst, ffôn, e-bost a rhwydweithiau cymdeithasol. Nia Medi sy’n cyflwyno @ebion.

Ìý

Nia Medi - cyflwynydd @ebion

Nia Medi - cyflwynydd @ebion

Ìý

"Rydym yn croesawu’r gyfres yma sydd yn torri tir newydd i C2," meddai Sian Gwynedd, Golygydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.

"Bydd Nia Medi yn trafod rhai o’r materion sydd yn poeni bobol ifanc ar hyd a lled Cymru ac yn clywed nifer o storïau personol cryf iawn ganddyn nhw. Mi fydd yna gyngor ar gael a chyfle i ymateb yn fyw ar y rhaglen - ond mi fydd ‘na hefyd ddigonedd o gerddoriaeth a hwyl."

Bydd arbenigwr hefyd yn cymryd rhan ymhob rhaglen er mwyn cynnig cyngor ynglyn â phwnc penodol y rhaglen honno, gan ddechrau gyda delwedd, lle bydd Dr Dai Samuel yn siarad am ei brofiad o anorecsia a chynnig cyngor ar fyw a delio gyda’r cyflwr.

"Mae’r gyfres yma wedi bod yn agoriad llygad mawr i mi gan mod i wedi bod yn rhan o’r gwaith ymchwil hefyd," meddai Nia Medi, sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth.

"Y gobaith ydi y bydd y rhaglen yn fath o ‘stafell ddiogel’ lle gall pobol ifanc deimlo’n rhydd i ddweud eu barn am yr hyn sy’n eu poeni nhw. Mae eu lleisiau nhw yn bwysicach nag erioed a dwi wedi dysgu gymaint yn eu cwmni yn barod a ‘dyw’r rhaglen heb hyd yn oed ddechrau eto! Mae’r rhaglen hon yn dangos cyfeiriad cyffrous newydd i C2 Radio Cymru a dwi’n hynod falch o fod yn rhan ohono."

@ebion ar wefan C2.

Ìý

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:43 ar 28 Medi 2011, gerallt gymro ysgrifennodd:

    hi, o fyn safbwynt i mae trefi mawr, er engraifft caerdydd, manceinion a lerpwl yn aml yn llai accesable na tafarndai cefn glwad
    ger xx

  • 2. Am 22:53 ar 28 Medi 2011, gerallt gymro ysgrifennodd:

    pam bod y gyfraith equall rights yn bodoli?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.