Wythnos i'w chofio o ran cerddoriaeth newydd...
Helo bobol
Mae hi wedi bod yn wythnos wirioneddol gofiadwy am gerddoriaeth newydd, a dwi di mwynhau pob eiliad o'i gyflwyno ar C2. Dyma beth sydd wedi ei wneud yn wythnos mor sbesial:
- Clywed nos Sul fod gan MC Mabon albym newydd, a'i chael yn albym yr wythnos
- Colorama yn gyrru yr albym fer newydd i ni
- Caneuon Cymraeg newydd Threatmantics
- Copi o CD/EP newydd Masters In France ar fy nesg
- Derbyn EP newydd vvolves
- Traciau newydd Truckers Of Husk
- "Demo" gan Cowbois Rhos Botwnnog fel anrheg!
- Huw Evans yn gyrru mp3s o'i albym newydd H.Hawkline
- Los Campesinos yn rhoi can newydd i'w lawrlwytho am ddim
- Cyfle i glywed albym newydd Girls
- Cael chwarae sesiwn newydd Trwbador
Bydd y cyfle cynta' i glywed caneuon Truckers Of Husk a Threatmantics heno am 8pm
Hwyl
Lis
x