Cerdd Dant a Cowbois Rhos Botwnnog
Be ydi'r cysylltiad rhwng Cerdd Dant a Cowbois Rhos Botwnnog?
Wel yr ateb ydi Iwan Huws.
Mae Iwan Huws - prif leisydd y Cowbois wedi derbyn yr her o drio dysgu'r grefft o osod cerdd dant, a mynd ati wedyn i ganu ei osodiad ei hun. Tydi o erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen, ond mae o wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn derbyn gwersi gan Menai Williams - sydd wedi yn brofiadol iawn yn y maes.
Ac wrth i ni agosau at yr Wyl Gerdd Dant yng Nghwm Gwendraeth (dydd Sadwrn Tachwedd 12fed), fe fydd na gyfle i chi ddilyn ymdrechion Iwan a Menai ar Raglen Nia Roberts bob bore wythnos nesaf.
Wnaiff Iwan lwyddo i osod, a chanu ei osodiad?
Dyma Iwan cyn y wers gyntaf
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Mwy o glipiau Sialens Cerdd Dant Iwan ar wefan Nia Roberts.