Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Teyrnged Steve Jobs

Criw C2 Criw C2 | 17:12, Dydd Iau, 6 Hydref 2011

Erbyn hyn mae 'nghorff yn deml (wel, teml arbennig o fudur, ond o leia dwi ddim yn smygu), ond mae 'mraich dal i ymestyn bob bore - i ffeindio'r iPhone nawr, a chael hit o wybodaeth o'r byd rhithwir cyn wynebu'r byd go iawn.

Bore 'ma, ar ôl ymbalfalu am yr Afal, y newyddion am farwolaeth Steve Jobs oedd ar y sgrîn fach yna (mewn , digwydd bod). Mae'r ffaith 'mod i, fel cynifer, wedi dysgu am ei farwolaeth trwy ddyfais a grëwyd gan ei gwmni falle'n brawf o'i ddylanwad pellgyrhaeddol.

Bu farw Steve Jobs neithiwr yn 56 oed ar ôl brwydr gyda chanser pancreatig, 35 mlynedd ar ôl ffurfio Apple yng Nghaliffornia gyda'i ffrind Steve Wozniak. Mae'r cwmni yn enwog am gyfrifiaduron slic fel y Macintosh a theclynnau sgleiniog fel yr iPod ac iPhone, ond falle'n bwysicach na'r dechnoleg ei hun oedd meddylfryd a gweledigaeth y dyn a brofodd yn hanfodol i ddyfodol y cwmni (bu bron i Apple fynd i'r wal ar ôl cyfnod heb ei arweinyddiaeth yn y 90au).

Mynnodd ei fod yn brwydro yn erbyn buddiannau busnes y diwydiant cyfrifiadurol a chyflwyno pŵer technoleg i bobl arferol gyda'r mantra o "feddwl yn wahanol". Roedd ganddo ddawn arbennig o ragweld dymuniadau'i gwsmeriaid (cyn bod nhw eu hunain yn sylweddoli hynny - fel ceffyl chwedlonol Henry Ford) ac adnabod y potensial yn y pethau a phobl a amgylchynai, gan ddenu tîm a dalentau hynod i gydweithio ag e, fel y dylunydd Jony Ive.

Wrth gwrs, roedd yn anorfod bod trawsnewidiad Jobs o ffigwr wrth-ddiwylliannol i bennaeth yr ail gwmni mwyaf gwerthfawr yn y byd yn esgor ar gyhuddiadau o ragrith, ac mae Apple, fel pob cwmni amlwladol, ymhell o fod yn ddilychwyn - gyda honiadau am amodau gwaith peryglus yn eu ffatrïoedd a chyfres o hunanladdiadau yn China, amharodrwydd y cwmni i edrych ar effaith amgylcheddol eu cynnyrch (hyd nes i ymgyrch Greenpeace eu gorfodi), a'u reolaeth lem a llwyr dros y rhaglenni sy'n cael rhedeg ar eu dyfeisiau symudol (dilëwyd gêm ddychanol am y cwmni o'r siop iTunes yn ddiweddar, gan godi cwestiynau am sensoriaeth). Roedd Jobs ei hun yn gallu bod yn unbenaethol ac anodd ei weithio efo, yn ôl rhai.

Mae ei ddylanwad ar y byd cerddorol wedi bod yr un mor chwyldroadol, er o bosib yn llai amlwg. Roedd Jobs yn ffan o gerddoriaeth, gyda chwaeth nodweddiadol o rywun a fagwyd ar arfordir Gorllewinol yr UD yn y 60au a 70au - mewn un o'i areithiau yn cyflwyno ryw gynnyrch newydd (oedd yn cynnwys perfformiadau byw yn aml), dangoswyd restr o'i hoff artistiaid ar ei sgrîn iTunes - yn cynnwys Bob Dylan, Cat Stevens, Miles Davis, The Rolling Stones, The Who. Ac wrth gwrs roedd yn ffan mawr o'r Beatles, gyda nifer yn amau iddo enwi'r cwmni ar ôl label y band, Apple Records, er bod hynny wedi esgor ar sawl ffrae ac achos llys rhwng y ddau gwmni. Setlwyd y ddadl hirwyntog y llynedd, gan roi'r hawl i iTunes werthu traciau'r Beatles o'r diwedd, er mawr foddhad i Jobs.

Nid Apple dyfeisiodd iTunes (prynwyd y feddalwedd gwreiddiol gan eraill) ac nid yr iPod oedd y chwaraeydd MP3 cyntaf, ond Jobs oedd â'r weledigaeth o asio'r ddau mewn ffordd hawdd ei ddefnyddio a gwerthu'r syniad o 'gasgliad recordiau yn eich poced' i gyhoedd oedd heb ystyried y peth cyn hynny.

Wedyn, gyda'r diwydiant recordiau yn wylofain am dranc eu busnes wrth i bobl lawrlwytho cerddoriaeth am ddim, llwyddodd i berswadio rhai o'r cwmnïau mawr i ganiatáu gwerthu caneuon yn gyfreithlon trwy iTunes ar delerau syml, newydd - fel arbrawf i ddechrau, gan ddadlau bod Apple mor fach na fyddai'n cael effaith ar weddill y byd cerddoriaeth. Buan iawn newidiodd hynny. Gwerthwyd y 10,000,000,000fed trac y llynedd (Johnny Cash - Guess Things Happen That Way) ac mae hefyd yn cynnwys rhaglenni teledu, ffilm, ac apps o bob math erbyn hyn. Mae offer Apple o hyd yn boblogaidd ymysg artistiaid a chynhyrchwyr cerddoriaeth o bob math hefyd.

Ond er gwaetha'r holl iDeclynnau, , y peth gorau a ddyfeisiwyd erioed ydi marwolaeth, a hynny er mwyn clirio lle i'r ifanc a'r newydd. Mae'n debyg bydd angen aros am sbel go hir cyn gweld talent fel un Jobs yn egino eto. Mae e bellach yn ymuno â'r rhestr o enwogion a ymddangosodd yn hysbyseb 'The Crazy Ones' Apple:

"You can quote them, disagree with them, glorify or vilify them... About the only thing you can't do is ignore them. Because they change things."


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.