@ebion - Crefydd
Nol yn yr haf, ges I gyfel i gael sgwrs gyda criw Y Gorlan yn 'Steddfod Wrecsam. Ma'r sgwrs honno yn fyw ar yr awyr nawr neu allwch chi wrando nol o fory ymlaen ar yr iplayer drwy'r wefan hon.
I ddarganfod mwy am y gorlan ac I weld fideo o Lewis Roderick yn egluro sut wnaeth y Gorlan effeithio arno gymaint nes iddo droi at y Gristnogaeth yna ewch I
Dwi hefyd yn sgyrsio'n fyw gyda'r gweinidog ifanc Y Parchedig J Derek Rees heno sydd wedi sefydlu Capel newydd Gymreig yn Abertawe.
I weld mwy am y capel ac I gysylltu yna ewch at y dudalen Facebook:
Crefydd a gychwynnodd yn yr India tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl yw Bwdiaeth ac erbyn heddiw yng ngwledydd Dwyrain Pell Asia y mae amlycaf. Ond dros y 50 mlynedd diwethaf mae wedi treiddio drwyddo i Ewrop ac erbyn hyn i Gymru gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Penrhos ger Raglan , Cwmbrân a Llangunllo (Powys). Ma na grŵp yng Ngogledd Cymru sy'n cwrdd yn aml i addoli, a ches i'r cyfle i fynd atyn nhw yn ystod un cyfarfod yn Nhy Nia Meleri Evans Yn rhuthin dros yr Haf.
Os oes gennych ddiddordeb neu ddysgu mwy yna ewch at y wefan ganlynol.
Mae Shehez Malik yn Fwslim ifanc o ardal Caerdydd. Mae e yn ymuno a fi heno hefyd i siarad am arferion mwslemaidd a sut mae portread negyddol y wasg ynghyd a therfysgaeth yn enw Islam wedi cael effaith ar y mwyafrif helaeth o fwslemiaid ifanc sydd yn condemnio'r hyn sydd yn digwydd. Mae'r Qur'An mewn gwirionedd yn ysgrif heddychlon iawn ac yn ol Shehez, mae codi ymwybyddiaeth o hyn yn holl bwysig I bobl sydd ddim yn dilyn Islam I ddeall be mae'n feddwl mewn gwirionedd.