Wythnos Dweud Stori
Yn ol pob son, mae hi'n Wythnos Dweud Stori yr wythnos yma, felly ar y rhaglen neithiwr, roedd yn cadw cwmni i mi. Mae Cath yn storiwraig broffesiynol, ac fe ges i hanner awr ddifyr iawn yn ei holi am ei chefndir, ei hoff straeon, a'r grefft o ddweud stori.
Ar y rhaglen hefyd, fe wnaeth Cath gytuno i gymryd rhan mewn arbrawf bach; mae hi wedi dechrau creu stori hefo ni, ac fe fydd pob gwestai ar y rhaglen yr wythnos yma yn gorfod ychwanegu at y stori, ac erbyn nos Wener (gobeithio!!) fe fydd ganddom ni stori gyflawn.
Mae croeso i chi gyfrannu at y stori - gadewch sylw ar y blog yma, neu ebostiwch ni!
Dyma ddechrau'r stori - gawn ni weld lle aiff y stori a ni yn ystod yr wythnos
Lis
x
DIWEDDARIAD: Dyma ychwanegiad Owain llyr at y stori:
Amser maith yn ol, roedd hen wraig flin a chas, hefo trwyn anferth, yn byw mewn bwthyn bach gwyn ar ben bryn. Bob bore, mi fysa hi'n dod allan i'r awyr iach, ac mi fysa hi'n gweiddi ar yr adar "Ewch o ma! Ewch o ma! Dwi di cael digon o hyn! Da chi'n gwneud swn! Da chi'n gwneud swn a dydw i ddim yn cael cysgu ganddoch chi, 'run ohona chi! Dwi di cael llond bol ohonoch chi, a deud y gwir!!
Well, doedd yr adar ddim yn hoff o'r hen wraig...
Drws nesaf i'r bwthyn gwyn lle roedd yr hen wreigan gas yn byw, roedd bwthyn bach arall - bwthyn lliwgar a blodau tlws yn tyfu o'i amgylch ymhobman. Now Bol Bisgedi y corach bach bodlon oedd yn byw yn y bwthyn hwnw. Yn wir, toedd Now ddim yn hoff o'r hen wreigan chwaith......
Un bore mi deffrodd Now i swn byddarol yn ei ardd ty allan i'w dy. Fe neidiodd allan o'i wely, mi roddodd ei ddillad ymlaen, ac fe agorodd y drws. Bu bron iddo fo lewygu yn y fan a'r lle. Dyna lle'r oedd y wraig flin a chas yn sefyll yno hefo bwyell yn ei llaw