Daniel Glyn - Danfoesol!
Neithiwr raglen Daniel Glyn, y cyflwynydd a newyddiadurwr Owain Phillips oedd yn wynebu her newydd ar raglen Daniel Glyn – Danfoesol! Mewn ymgais i ddarganfod pa mor onest ac egwyddorol yw ei westeion mae Dan yn cynnig tri senario iddyn nhw a holi beth fydden nhw’n ei wneud!
Dyma un o’r cwestiynau moesol wynebodd Owain. Beth fydde chi’n wneud? Gwrandewch ar ei ateb isod!
Mae gen ti gyfweliad am swydd – swydd dy freuddwydion. Yn anffodus ar fore y cyfweliad, ti’n rhedeg yn hwyr... hwyr iawn. Wrth i ti gyrraedd y swyddfa – dim ond un lle parcio sydd ar ôl. OND mae o’n le parcio ar gyfer pobl gyda phlant. Mae’na wraig yn gyrru car tu ôl i ti gyda tri o blant ynddo. Beth wyt ti’n gwneud?
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.