Unnos Gwyl Dewi 2012 - bron yn hanner nos
Dwi'n cael y fraint heno o fod yn bry ar y wal ar Sesiwn Unnos Gwyl Dewi, a dwi wrth fy modd. Wedi rhyfeddu os dwi'n gwbwl onest! Roedd gen i deimlad pan ges i wybod pwy oedd y rhestr artistiaid y bydde'r sesiwn yn un arbennig iawn.
Roedd y syniad o gloi'r athrylith Carwyn Elis mewn 'stafell efo Georgia Ruth Williams yn un gwych, ac ychwanegu Eryl a Sion o Jen Jeniro ac Euron Jones o Cowbois Rhos Botwnnog yn sicrhau bod o'n gyfuniad hynod o ddifyr o gerddorion talentog a gwahanol.
Doedd gen i ddim syniad yn fy mhen o sut roedd y gerddoriaeth yn mynd I swnio, ond un peth sy'n sicr ydi bod yr awen yn llifo ac mae pawb yn mynd amdani. Da ni'n nesu at hanner nos, mae 'ne fwyd ar y ffordd, ac mae Sesiwn Unnos Gwyl Dewi yn mynd I fod yn un o'r goreuon! Lis x