Rownd gyn derfynol arall Brwydr y Bandiau heno!
Helo! Mae 'na bedwar band yn cystadlu eto heno am le yn Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru - sef SGIDIE GLAS, TYMBAL, MATCH HOUSE a YR AYES.
Mae nhw angen eich pleidlais chi ac fe gewch chi'r rhifau perthnasol drwy wrando ar Raglen Daniel Glyn. Fe fydd y llinellau yn cau am 11.30, a gewch chi glywed pa ddau fand fydd yn mynd drwodd i'r rownd derfynol ar Ebrill 18fed ar ol hanner nos heno!
Mae NEBULA a FAST FUSE eisoes wedi cyrraedd y rownd derfynol.