Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwyliau Cerddorol Y Penwythnos Yma

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Criw C2 Criw C2 | 13:34, Dydd Mawrth, 29 Mai 2012

Mae nifer o wyliau cerddorol yn digwydd y penwythnos yma.
Bu Huw Stephens yn sgwrsio gyda Gareth Potter a Gwyn Eiddior ar ei raglen neithiwr.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.


Dyma grynodeb gan Emyr Peirce o gwmniÌýCytgord;

GWYL SEIDR CLYTHA 2012

Bydd GWYL SEIDR CLYTHA 2012 yn digwydd yn nhafarn y CLYTHA ARMS, CLYTHA ger Y FENNI dros y penwythnos yma, Mehefin y 1af i'r 5ed.

Ìý

Mae'r gerddoriaeth ar dydd Sadwrn a dydd Sul yn cael ei drefnu a'i gyflwyno ar ran yr Wyl gan GIGS IFOR BACH. Mae mynediad i'r Wyl yn rhad ac am ddim!

Ìý

Bydd y canlynol ymhlith y cerddorion fydd yn ymddangos dros y penwythnos:

YR ODS, COWBOIS RHOS BOTWNNOG, GEORGIA RUTH WILLIAMS, KATELL KEINEG, TRWBADOR, GRETA ISAAC, SION RUSSELL JONES, OLION BYW, JONATHAN POWELL, MONKJACK, TOMOS LEWIS gyda DJ's GARETH POTTER, KIM DE BILLS a MEIC P.

Ìý

Gwersylla yn £20 (nifer cyfyngedig). Digonedd o fwyd, diod, hufen ia, teisennau, cestyll gwynt, adloniant i'r plant a llawer, llawer mwy!Ìý

Gwybodaeth o dudalennau facebook ac o

Ìý

GWYL NYTH 2012

Cofiwch archebu eich tocynnau ar gyfer GWYL NYTH TU ALLANÌý sy'n digwydd yn GWDIHW dydd a nos Sul penwythnos Gwyl Banc, Mehefin y 3ydd.

Ìý

Ymhlith y bandiau a'r cerddorion unigol sydd wedi eu cadarnhau i ymddangos maeÌý COWBOIS RHOS BOTWNNOG, YR ODS, TRWBADOR, DAU CEFN, BO INGEN, WE ARE ANIMAL, IFAN DAFYDD, ROB A'R RIPARS, Y PENCADLYS, PLYCI,Ìý CREISION HUD gyda DJ's DYL MEI, KIM DE BILLS, MEIC P ac OSH TAL

Ìý

Bydd y gweithgareddau'n cychwyn am 2.00 o'r gloch y prynhawn ac yn gorffen am 2.00 o'r gloch y bore canlynol.

Ìý

Mae'r tocynnau ar werth rwan am £7 o

Ìý

Yn ogystal a diwrnod llawn cerddoriaeth byw bydd arlwy blasus o fwyd a diod yn eich aros dan do canfas iard gefn GWDIHW.

Ìý

Manylion o ac o dudalennau facebook a twitter

Ìý

GWYL TAN YN Y MYNYDD 2012

Bydd GWYL TAN YN Y MYNYDD 2012 sydd wedi ei leoli ar dir CWMNEWIDION ISAF, CNWCH COCH yn digwydd dros benwythnos hir y Gwyl Banc o Fehefin y 1af i'r 5ed.

Bydd yr Wyl yn cynnig y gerddoriaeth orau o bob cyfandir gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Iwerddon, Yr Alban ac wrth gwrs o Gymru. Bydd degau o fandiau a cherddorion unigol yn perfformio o dydd Iau tan dydd Mawrth. Yn eu plith bydd THE GENTLE GOOD, CALAN, THE MOREDEKKERS, UNDER THE DRIFTWOOD TREE, ALISDAIR ROBERTS, ADAM HURT, FINIKITY CHAOS, NICK MULVEY, DnA, MARRIED TO THE SEA, AUTOMATIC SAM, ROSS AINSLEE, THE LONG NOTES, HONEY FEET, BETH HARTNESS, LOOSE MOOSE, CUT A SHINEJARLATH HENDERSON, RIOGHNACH CONNOLLY, COOPER SOUTHERN, MAMADOU, NOON, THIS IS THE KIT, NUALA HONAN a llawer mwy.

Ìý

Tocynnau Gwyl yn £70 yn cynnwys gwersylla. Tocynnau dydd yn £10 i oedolion dim gwersylla (plant dan 13 am ddim). Tocyn parcio £5. Bydd gwasanaeth bysiau rhwng yr orsaf drenau yn Aberystwyth a safle'r Wyl am ddim.

Ìý

Holl fanylion yr Wyl ar safle

Ìý

GWYL KAYA 2012

Bydd Gwyl newydd KAYA 2012 yn digwydd ar dir STAD Y FAENOL ger Bangor o Fehefin y 1af i'r 3ydd.

Ìý

Bydd yr Wyl yn cynnig adloniant a cherddoriaeth byd o Affrica, Jamaica, Y Caribi a Chymru. Mae'r Wyl wedi ei anelu at bobl ifanc a'r teulu, ac yn ogystal a chynnig perfformiadau gan nifer o ser amlwg, bydd hefyd yn cynnig cyfres o weithdai amrywiol, stondinau bwyd, gorymdeithiau hwyliog o amgylch y maes, bandiau drwm dur, cor plant lleol, syrcas, sinema, celf a chrefft, gwisgoedd, gweithgreddau gwyl a llawer mwy.

Ìý

Ymhlith y cerddorion bydd yr anhygoel LEE SCRATCH PERRY yn rhoi un arall o'i berfformiadau bythgofiadwy ar y nos Sadwrn ynghyd a SONA JOBARTEH, TONY ALLEN, KANDA BONGO MAN, SNOWBOY, FRANKIE FRANCIS, SKA CUBANO, DUB PISTOLS a STUDIO ONE vsÌý SOUNDCLASH.Ìý

Ìý

Tocyn penwythnos oedolyn £75, tocyn penwythnos di-waith / myfyriwr £55, tocyn diwrnod £45, tocyn diwrnod di-waith / myfyriwr £40, plant (o dan 13) am ddim, tocyn teulu £220, tocyn dan 19 £45, tocyn diwrnod dan 19 £35, tocyn cerbyd gwersylla £20. Mae pob tocyn GWYL KAYA 2012 yn cynnwys gwersylla a parcio yn y pris.

Ìý

Mwy o fanylion am yr artistiaid, y drefn, y lleoliad a tocynnau ar wefan swyddogol GWYL KAYA 2012 -

Ìý

GWYL KINGS FEST 2012

Bydd gwyl KINGS FEST 2012 yn digwydd yn nhafarn THE ROYAL HEAD, LLANIDLOES dros benwythnos hir Mehefin y1af i'r 3ydd. Dyma'r 7fed GWYL KINGFEST a bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well nac erioed gyda dros drideg o fandiau a cherddorion unigol! Er mwyn cyfarfod a chostau cynyddol mae'r prisiau mynediad wedi codi ychydig eleni, ond yn aros yn rhesymol iawn. Tocyn mynediad dydd Gwener yn £3, dydd Sadwrn yn £6, dydd Sul yn £6 a penwythnos cyfan yn £10.

Ìý

Ymhlith y cerddorion yno bydd CANDELAS, CONDUCTORS, LONG DEAD SIGNAL, PROSPERINA, MK ZERO, SON CAPSON, GIVE CHASE, THE BEAST WITH A MILLION EYES, SOLID FUDGE, DIAGNOSIS MERTHYR, JJ DAVIES, THOMAS JONES, ELLEN COX, PP DOG, DUDEZILLA a llawer, llawer mwy.

Mwy o wybodaeth o

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.