SFA - yr unigolion...
Haia!
Fel grwp, mae'r Super Furry Animals wedi bod yn dawel iawn yn y blynyddoedd dwetha - dim albym ers Dark Days/Light Years yn 2009, a heblaw am chware yn noson goffa Gary Speed yn Stadiwm y Mileniwm, fawr ddim gigs chwaith.
Yn amlwg, i ffan fel fi, ma hynny'n beth drwg - dwi'n gweld colled un o'n grwpie mwya creadigol erioed, ond er fod y grwp 'di bod yn dawel, mae'r aelodau - Gruff Rhys, Cian Ciaran, Daf Ieuan, Huw Bunford a Guto Pryce wedi bod yn brysur iawn., ac mae 2013 yn argoeli i fod yr un mor gynhyrchiol iddyn nhw.
Sengl Gulp prosiect newydd Guto Pryce hefo Lyndsey Leven, oedd un o fy hoff sengle o 2012, a dwi'n edrych 'mlaen at glywed mwy ganddyn nhw eleni. Mi oedd albym unigol gynta Cian Ciaran, "Outside In", llawn harmoniau hyfyrd a geirie torcalonus, ac felly dwi'n hynod falch bod Cian yn bwriadu rhyddhau ei ail albym yn y misoedd nesa' 'ma.
Yr wythnos d'wetha ar y rhaglen, ro'n i'n ddigon lwcus i fedru chwarae traciau "ecsgliwisif" oddiar albym newydd The Earth - band Daf Ieuan hefo Mark Roberts (Cyrff/Catatonia/Ffyrc) a Dionne Bennet (The Peth). Ma na swn pop 'soul' anhygoel i'r albym, swn eitha retro, ond hefyd yn llawn angerdd. Mi fydd albym gynta' The Earth, "OFF/ON1", yn cael ei rhyddhau ar label Strangetown Records yn fuan, hefo sengl am ddim o'r enw "I Deserve You" ar Chwefror 2il.
Mae Gruff Rhys hefyd 'di bod yn brysur yn y 3 mlynedd dwetha - falle eich bod chi wedi gweld y ffilm Seperado ar S4C dros y 'Dolig, neu wedi prynu'r albym wych "Hotel Shampoo" - albym fuddugol y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2011? Ond beth am 2013...?
Wel, cyn y Dolig, ges i sgwrs hefo Gruff, ac mi oedd o'n son fod ne albym newydd ganddo ar y ffordd yn 2013. Doedd o ddim isho deud mwy, ond mae na ambell gliw wedi ymddangos yn y dyddiau dwetha. Mae Neon Neon wedi creu cyfrif Twitter - Neon Neon oedd prosiect Gruff hefo Boom-Bip, gafodd enwebiad Mercury - i gyhoeddi y bydda nhw'n DJ-io yn y Roundhouse yn Llundain ar Chwefror 19eg. Ma nhw hefyd wedi lawnsio tudalen tmblr... Dybed ydy hyn yn golygu fod yr ail albym ar y ffordd? Gobeithio wir!
Hwyl
Lis
X