Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn Orseddol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:59, Dydd Gwener, 18 Rhagfyr 2009

Y cylchgrawn Barn yw'r diweddaraf i fytheirio yn erbyn y modd y dewiswyd yn ddietholiad Archdderwydd nesaf Cymru.

"Mynegwyd siom ar ambell i flog na fyddai cystadleuaeth . . . am yr anrhydedd o fod yn Archdderwydd," meddai Vaughan Hughes yn ei golofn Cwrs y Byd yn rhifyn Rhagfyr-Ionawr o'r cylchgrawn.

Fel y cyntaf o'r "ambell flog" yna yr oedd rhywun wrth ei fodd clywed nad rhyw belcian adweithiol yw rhywun yn hyn o beth.

Yn wir, mae Vaughan, yn ei dweud hi'n go arw am y modd yr hwyluswyd y ffordd i un o'r ddau ymgeisydd a enwebwyd, Mererid Hopwood, dynnu'n ôl o'r râs er mwyn rhoi llwyr ryddid i'r rhedwr arall, T James Jones, ennill.

Hynny er iddi gael ei henwedbu gan saith o Orseddogion a oedd am ei gweld yn sefyll. Ofynnodd rywun iddyn nhw am eu barn?

Ond yn ôl at Vaughan: "Efallai na fydd Bwrdd yr Orsedd yn hoffi clywed hyn, ond ar lawr gwlad mae 'na anniddigrwydd cynyddol ymhlith deiliaid y cobanau. Mae na beth wmbredd o ferched sydd wedi cael eu siomi'n aruthrol yn Mererid am ei bod hi wedi tynnu'n ôl," meddai.

"Mae eraill o'r Gorseddogion yn defnyddio geiriau anllenyddol iawn megis 'stitch up' i ddisgrifio'r modd rywsut, rywfodd y cafodd hawl yr aelodaeth i blediais ei hatal. Eto. Nid drwy ddichell efallai,. Ond drwy gyfrwystra yn sicr."

Ac mae o'n galw ar y cofiadur newydd - yn dilyn ymddeoliad John Gwilym Jones a ildiodd ei swydd pan ddaeth yn amlwg mai ei frawd fyddai'r Archdderwydd nesaf - wneud "adfer democratiaeth" yn flaenoriaeth iddo'i hun.

"Wedi'r cyfan, onid yn haul llygad goleuni y dylai'r Orsedd o bawb fod yn gweithredu?" yw ei gwestiwn.

Bydded hynny; achos trwy weithredu fel y gwnaeth yr hyn y mae Bwrdd yr Orsedd wedi ei wneud yw rhoi blas chwerw i'r anrhydedd cwbl haeddiannol a ddaeth i ran T James Jones.

Trueni.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:28 ar 19 Rhagfyr 2009, ³§¾±Ã¢²Ô ysgrifennodd:

    Twt! Cafodd dau o bobl eu henwebu. Penderfynodd un nad oedd am sefyll y tro hwn. Dim dichell, dim cynllwyn, dim brad, dim stori!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.