Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau Gŵyl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:35, Dydd Mawrth, 22 Rhagfyr 2009

Mae'r Nadolig yn frith o ddywediadau sy'n pendilio rhwng yr ystrydebol a'r arwynebol.

Yr ydym ni i gyd wedi cael ein dal yn eu dweud nhw - ond rhag ofn ichi fethu ambell un dyma ddetholiad o Wirioneddau'r Å´yl - neu fwyaf tebyg, Gwirion Eddau'r Wyl rhai ohonyn nhw yn bethau a glywais wrth basio tra'n crwydro siopau yn ystod y dyddiau diwethaf fel yr un cyntaf un gan wraig dros ei chanol oed oedd yn amlwg yn gweld ei hun mewn peryg o wario gormod ar yr hyn debygwn i oedd yn wyrion.

"Ma nhw'n [plant] câl digon yn barod," medda hi.
Gwirionedd Mwyaf Gŵyl y Ga'i siŵr o fod.

Dyma ichi ragor:

  • Mi fydd yn rhaid iti gymryd be ti'n gael, fel pawb arall.
  • Mi fydd o'i gyd drosodd yr amser yma'r wythnos nesa . . .
  • Mae hyd yn oed y goedan blastig yn colli'i dail.
  • Mae Santa Clos yn gwatsiad . . .
  • Santa Dyma 'chi geiniog newydd sbon - mae honna werth punt yn Tesco! [Wrth roi newid i gwsmer yn Smiths Caernarfon.]
  • Pres dwi'n roi i bawb lenni - dydw i ddim yn gweld pwrpas gwario'n wirion.
  • Peth i'r plant ydi o'n te . . . [Dynes rhwng y silffoedd diod yn Asda.]
  • Mi fydd o'n rhywbeth iddo fo wneud bore Dolig - ei roi o wrth ei gilydd.
  • Mi fydda i'n rhoi list [siopio] i'r ferch ac mae hi'n i wneud o'i gyd imi [Hen wraig yn mwynhau paned a chacen].
  • Dwi di torri lawr ar Grusmas cards 'leni.
  • Pam ma pobol yn dŵad i siopio Dolig efo pramiau, wn i ddim.
  • Dwi iso . . .
  • Mi wnaiff hwn yn iawn iddo fo - dydi o ddim yn disgwyl llawer.
  • Mi wnaiff hwn yn iawn i Jane yn risepsion - mae hi'n rhywun sy'n mynd reit fyny nhrwyn i beth bynnag.
  • Dydw i ddim yn gwybod i brynu rhywbeth i Jac neu beidio - ta disgwyl iddo fod beidio prynu rhywbeth i mi a gwneud yr un peth yn ôl iddo fo, flwyddyn nesa.
  • Be ti iso 'ta? [mewn siop lyfrau] Rhwbath ond 'Y Llyfrgell'.
  • Cant o lefydd i'w gweld cyn marw? Mi fasa'n well gen i farw na mynd i rai ohonyn nhw.
  • Mae na bractus rhywbeth bob nos. Mae'r capeli ma fasa sa'n nhw'n mynd yn wallgo dros Dolig fel hyn.
  • Triwch chi wneud dafad mewn noson. Mae isio mwy o notis na hynna.

Y diwrnod ei hun - ac wedyn

  • Mae o wedi chwarae mwy efo'r bocs na beth oedd yno fo.
  • Nid un fel'na sydd gan bawb arall mae rhai nhw yn . . .
  • Dwi'm yn dallt honna [am jôc cracyr]. Does na'm byd i'w ddallt.
  • Mae hwnna rhwng pawb - rŵan stopiwch ffraeo.
  • Wel, jyst un bach 'ta. Rhag bod yn wahanol.
  • Os ydio rhwng pawb pam mae o efo fo trwy'r amser?
  • Dwi'n cofio pan oeddech chi'n cael dim byd ond orenj a phâr o sana.
  • Dwi di cadw'r risît os byddi di eisiau'i newid o.
  • Eira? Mae o'n neis ar Grusmas cards.
  • Newid hinsawdd? Mae gynnon ni rosyn yn yr ardd.
  • Mam - mae Santa'n cael yr un papur lapio a ni!
  • Sut yda chi'n gwybod i fod o'n barod? [Am y tyrci]
  • Does na ddim byd ar y teledu - eto leni.
  • Tudur Owen o'r Doc? Yn y blydi doc fasa'n well.
  • Iesgob! Paid a newid hwnna bob munud. Tyd â'r rimôt i mi.
  • Dwi'n cofio pan oedd yna ffilms diwrnod Dolig. A Morecambe and Wise sbesial.
  • Wel, mae gen i dipyn bach o dyrci oer os leciwch chi.
  • Ar ôl yr holl draffarth . . .
  • Dyna ni am flwyddyn arall - pwy bynnag fydd yma.

Nadolig Llawen ichi gyd. Mwynhewch. A chofiwch anfon y risît efo unrhyw anrheg . . .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:23 ar 22 Rhagfyr 2009, Owen Wyn ysgrifennodd:

    Gweld eich dyfyniad o Smiths, Caernarfon. Bob tro dwi wedi bod yn Smiths, Caernarfon yn ddiweddar Susnag o ffwr' dwi wedi ei gael bob tro. Ac mewn lot o siopau erill yn dre hefyd.
    Meri Crusmas i chi a Dolig Llawen iddyn nhwtha.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.