Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Doniau lleol cenedlaethol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:05, Dydd Gwener, 21 Mai 2010

Doniau'r ardal ei hun fydd yn rhoi cychwyn i Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ymhen ychydig dros wythnos.

Ar lwyfan y cyngerdd agoriadol bydd enillwyr o Geredigion yn eisteddfodau'r Urdd yn y gorffennol - a'r hyn sy'n rhyfeddol yw faint o ddoniau amrywiol mae'r ardal hon wedi gynhyrchu.

Ar y llwyfan nos Sul, Mai 30, bydd tri sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel - Rhys Taylor, Rakhi Singh a Rhian Lois, er enghraifft.

Ac fe all Côr Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans ddisgwyl cryn groeso.

Yno hefyd bydd y darlledwr BB Aled Haydn Jones a oedd yn un o lywyddion y dydd yng Nghaerdydd y llynedd.

Ydi mae hi'n dipyn o leinyp chwedl hwythau:
Rhian Lois.
Dewi Pws,
Gwawr Edwards,
Rhys Taylor,
Rakhi Singh,
BB Aled Haydn Jones,
Chris Lewis,
Triawd Tynrhos - y brodyr Robin Lyn, Dewi Sion ac Ifan
Georgina Ruth Williams.

A chofiwch bydd adroddiadau dyddiol ar y wefan y Ö÷²¥´óÐã o Faes yr Eisteddfod a blogio cyson am y mawr a'r bach, y difyr a'r doniol.

Mae drws y wefan yn agored yn barod - piciwch draw.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.