主播大秀

Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol

Rhys Taylor

17 Mai 2010

Enillwyr o Geredigion yn eisteddfodau'r Urdd yn y gorffennol fydd yn cymryd rhan mewn cyngerdd i agor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.

Yn eu plith ar y llwyfan nos Sul, Mai 30, bydd tri sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel - Rhys Taylor, Rakhi Singh a Rhian Lois.

Ar y llwyfan hefyd bydd C么r Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans a'r darlledwr BB Aled Haydn Jones.

Dyma restr o bawb fydd yn cymryd rhan:

Yr artistiaid fydd yn perfformio yw: Rhian Lois. Dewi 'Pws' Morris, Gwawr Edwards, Rhys Taylor, Rakhi Singh, BB Aled Haydn Jones, Chris Lewis, Triawd Tynrhos - y brodyr Robin Lyn, Dewi Sion ac Ifan Georgina Ruth Williams.

Rhian Lois

Talodd y gantores Rhian Lois, sy'n wreiddiol o Bontrhydygroes ac yn gyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd Tregaron ond sy'n awr yn dilyn cwrs 么l-radd yn y Coleg Brenhinol yn Llundain, deyrnged i'r Urdd:

"Mae'n nyled i'n fawr iawn i'r Urdd am y cyfleoedd ges i dros y blynyddoedd. A nawr rwy'n sylweddoli cymaint mae hyn wedi helpu fy ngyrfa. Mae'r nerfau yn gymaint llai rhywsut wedi cael y profiad o fod ar lwyfan ac o flaen camer芒u teledu yn Eisteddfod yr Urdd.

"Wy'n aml yn siarad am yr Eisteddfod gyda fy nghyd fyfyrwyr ac mae'n amlwg mai ar wahan i Awstralia - sydd 芒 thraddodiad eitha' cryf o eisteddfodau - mai ni yng Nghymru yw'r unig wlad sy'n cynnig y cyfleoedd yma i'w ieuenctid. Mae'n rhoi cymaint o hwb i ni."

Mae tocynnau i'r cyngerdd ar gael drwy ffonio 0845 257 1639 neu ebostio nontudur@urdd.org


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.