Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Parchu Beirniaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:30, Dydd Llun, 24 Mai 2010

Heb feirniaid fyddai yna ddim Eisteddfod wrth gwrs. Mae cymaint o'u hangen nhw ag sydd yna o angen cystadleuwyr!

Ond ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fel hyn, a'r Eisteddfod Genedlaethol o fewn cwta hyd cae, cafwyd cwyn yr wythnos diwethaf nad yw beirniaid yn cael y parch a haeddant bob amser.

Yr oedd - sy'n un o bianyddion mwyaf blaenllaw Prydain - ac yn feirniad o'r safon uchaf yn siarad ar y rhaglen radio Beti a'i Phobol Mai 20 2007 pan ddywedodd nad yw eisteddfodau yn talu digon ac, yn bwysicach, nad ydynt yn dangos y parch sy'n ddyledus tuag at feirniaid.

Iwan Llewelyn Jones ar ei wefan

Fel enghraifft o hynny soniodd am feirniaid nad oedd yn adnabod ei gilydd yn gorfod rhannu ystafell mewn gwesty!

Wrth ymateb i gwestiwn gan Beti George , cyflwynydd y rhaglen, ynglŷn â safon beirniaid cerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol fe'i disgrifiodd fel, "Amrywiol" - yn enwedig o safbwynt beirniaid offerynnol.

"Mae'n anffodus; yn y byd canu mae'r pwll yn fwy ond yn achos offerynwyr . . . does gan rhywun ddim mo'r arbenigedd yn y byd hwnnw. Mae'r pwll yn llai, yn eithaf bychan yn anffodus," meddai gan ychwanegu nad yw'r tâl ychwaith bob amser yn ddigonol.

"Dydy nhw ddim yn talu digon a dydy nhw ddim yn barod i dalu digon," meddai.

"Mae'r Eisteddfod nawr wedi chwyddo yn nhermau teledu a'r holl bethau eraill a'r noddi ond mae ffioedd beirniaid wedi aros yn eithaf isel o gymharu," meddai

Ond ychwanegodd mai'r hyn a alwodd yn ddiffyg parch a'i pryderai fwyaf.

Y tro cyntaf iddo ef feirniadu yr oedd disgwyl iddo rannu ystafell mewn gwesty a beirniad arall meddai.

"Dwi wedi clywed am bobl sydd wedi gorfod rhannu stafell efo rhywun dydy nhw ddim yn ei adnabod a dydi hynny ddim yn iawn," meddai.

"Dwi'n meddwl fod parch at feirniaid yn isel weithiau gan y bobl sy'n trefnu a rhaid newid hwnna," ychwanegodd.

"Dydi'r ffi ddim yn bwysig - y parch sy'n bwysig. Da ni'n sgwennu yna drwy'r dydd. Da ni'n gweithio fflat owt," meddai.


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.