Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penwythnos Mawr Rhian

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Blogiwr Gwadd | 07:11, Dydd Llun, 24 Mai 2010

Roedd Rhian Price ar ddyletswydd gefn llwyfan ar ddiwrnod cyntaf Penwythnos Mawr Radio 1 yn Y Faenol Mai 22 2010.
Dyma bigion o'r diwrnod.

11:30 Fy nyletswydd yw loetran wrth y llwyfan dawns awyr agored, a bod yn barod ar amrantiad i ddatgan cyhoeddiadau diogelwch yn y Gymraeg petae argyfwng yn codi.
Rhian gydag  Annie Mac, un o gyflwynwyr Radio 1

Negeseuon megis: 'Gyfeillion ... oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, mae'n rhaid stopio'r sioe'.

Neu: 'I sicrhau diogelwch y rhai agosaf at y llwyfan, ar ôl Tri, a wnaiff pawb gymryd tri cham yn ôl'.

Bydd cyd-wirfoddolwr yn dod draw i gymryd fy lle o bryd i gilydd - fydd yn gyfle i mi ymweld a'r llwyfannau eraill.

12:00 Mae'r llwyfan dawns wrth ymyl y brif fynedfa. Y drysau newydd agor. Miloedd yn tyrru i'r maes.

"Mae'r anhrefn wedi cychwyn!" meddai Alf, peiriannydd sain a thipyn o ges, sydd ag un o'r wynebau hynny na wnewch chi fyth mo'u anghofio.

Westwood ydi'r cynta i droelli disgiau - neu beth bynnag maen nhw'n galw'r grefft sy'n cael ei hymarfer ar y llwyfan yma. Heblaw am gyflwynwyr adnabyddus Radio 1, does gen i'm syniad pwy yw hanner y perfformwyr ar drefn y rhaglen. Ond mi wn bod unrhyw un sy'n cyrraedd mewn cerbyd mawr a ffenestri duon yn rhywun ...


Pete Tong - a'r peli

12:30 Swyddogion heddlu yn hebrwng llanc o'r safle. "Mor gynnar a hyn?" meddai un o'r criw, sydd wedi hen arfer a gwyliau cerddorol mawr.

13:15 Cyffro! Hanner dwsin o swyddogion yn trio dal hanner dwsin o lafnau sy'n rhedeg ar hyd y gwair, ar ôl gwthio trwy'r glwyd ddiogelwch. Gollish i gychwyn yr helfa. Ro'n i'n brysur yn chwilio am fin i daflu 'nghroen banana iddo.

13:40 Rhybudd gan y rheolwr llwyfan i beidio a thynnu llun y gantores Kelly Rowland, gynt o'r grŵp Destiny's Child. Mae hi'n sgwatio'n egniol i ystwytho'r cymalau, cyn dringo grisiau'r llwyfan cyn gyflymed a gafr ar lethr mynydd. Tipyn o gamp mewn sgert gwta, a bŵts sodla' uchel at ei chlunia'.

14:10 Bois bach, ma' hi'n boeth! Y gwres yn dechra' deud arna'i, a'r botel eli haul yn wag. Aelod o fand Dizzee Rascal - mae'n debyg - a ffordd unigryw o gadw'r haul draw. Mae'n dal cadair blastig dros ei ben.

14:40 Sŵn hofrennydd uwch ein pennau. Ai dyma sut mae Cheryl Cole yn cyrraedd y Faenol? Falle ddim. Mae'n debycach i hofrennydd Awyrlu'r Fali. Mae'n amgylchynu stad y Faenol am sbel. Pam, tybed ...?

Tim Westwood ac Alf

14:50 Rapiwr o'r enw Chiddy Bang yn mynd trwy'i betha' ar y llwyfan. Pam bo dynion ifanc heddiw'n mynnu gwisgo'u trowsusa mor isel, nes bo'r gwast dan bochau eu penolau? Fi sy'n hen ffasiwn, mwn.

Gŵr yn y dorf yn tynnu fy sylw. R'un ffunud ag Ashley Cole.

Y cyflwynydd Reggie Yeats yn sefyll wrth fy ymyl. Modrwy a llythrennau mawr ar un law, yn sillafu naill ai ATOM neu NATO.

Crwydro'r maes

Vernon Kay a Pete Tong yn herio'i gilydd ar y llwyfan nesa gyda'u dewis o gerddoriaeth. Dacw nhw rŵan yn trafod tactega.

16:10 Dyn o'r enw Paul wedi pwmpio aer i beli anferth. Maen nhw'n fwy na pheli glan môr ond yn llai na'r un ar raglen The Prisoner, ac wedi eu pentyrru y tu ôl i ffens uchel, fodfeddi o'r gynulleidfa. "Byddai'n eu taflu i'r dorf mewn rhyw ugain munud," meddai.

Y dorf wedi chwyddo'n sylweddol erbyn i'r ddau gyflwynydd fynd benben a'i gilydd. Hynny'n amlygu eu poblogrwydd, a hwythau'n cystadlu yn erbyn Cheryl 'Trysor Cenedlaethol' Cole ar y prif lwyfan ben arall y cae.

16:50 Boi clên yn cytuno i dynnu fy llun. "Gofalu am Vernon Kay ydan ni," meddai. "Oes angen llawer o ofal arno?" gofynnais. "Deud dim!" atebodd.

Ambell aelod o'r dorf yn binc fel corgimychiaid erbyn hyn. Yn enwedig y llancia heb grysa.

17:00 Y cyflwynwyr yn gadael y llwyfan mewn hwyliau da. "Pwy enillodd?" gofynnais. "Wastad yn gyfartal" meddai Vernon Kay. Cytunodd Pete Tong, gan wasgu fy ysgwydd yn siriol.

18:10 Yn y brif babell am ychydig i roi hoe i gyd-wirfoddolwr. Alicia Keys yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer ei pherfformiad ond y llwyfan heb fod yn barod ar ei chyfer. Rhywun yn tywys y diva o'r babell. Hitha'n diflannu o'r golwg ar gefn bygi golff.

Y dorf yn dechra aflonyddu wrth i'r criw ddatrys problema' technegol. Cynrychiolydd y gantores yn codi eu haeliau mewn rhwystredigaeth. Y bygi golff a'r diva'n ail-ymddangos. Ms Keys yn ymddangos yn hamddenol, er gwaetha'r oedi. Rhyddhad wrth i'r perfformiad gychwyn.

18:30 Prynu coffi ar fy ffordd yn ôl i'r llwyfan dawns. Gŵr yn holi be 'di nyletswydd heddiw. Finna'n egluro. "Allwch chi gyhoeddi bod 'na argyfwng yn y stondin siocled?" meddai. "Mae hi'n rhy boeth. Neb eisio siocled."

19:00 Torf y llwyfan dawns wedi teneuo. Artistiaid fel Dizzee Rascal a MGMT sy'n denu. Alf y periannydd sain yn dawnsio'n egniol. Cwta dair awr i fynd.

19:45 Alf yn hercian ond mae'n dal i neidio i'r bît ar ei droed dda. Swyddog cymorth cynta'n rhwymo'i ben-glin. "Ges i niwed i'r tennyn," eglura. "Wrth chwarae efo Lego 'Dolig dwytha."

20:40 Hoe ola'r dydd a chyfle i weld hanner set Faithless, a chan gynta Florence and the Machine - prif artistiaid y dydd. Does dim amheuaeth bod y gantores bengoch, droednoeth a phresenoldeb aruthrol ar lwyfan. Yn gresynu nad oes modd aros i weld rhagor.

21:00 Sioe ola'r diwrnod yn cychwyn ar y llwyfan dawns yng nghwmni'r gyflwynwraig Annie Mac. Hitha wedi gwirioni efo'r ardal. "Dwi heb fod yng Ngogledd Cymru o'r blaen," meddai, "dim ond i Aberystwyth."

Rhan o'r dorf

21:20 Mwg yn codi o'r llwyfan! A oes argyfwng? Dwi'n cydio yn fy sgript, rhag ofn. Ond na. Mae'n rhan fwriadol o'r sioe.

21:40 Wyneb cyfarwydd fy merch yn rheng flaen y dorf, yn amlwg yn mwynhau. Dyma dorf fwya'r dydd i'r llwyfan yma - arlwy'r llwyfannau eraill eisoes wedi dod i ben. Tri llanc yn ceisio creu pyramid - er pryder y stiwardiaid.

22:00 Amser mynd adre. Doedd dim rhaid stopio'r sioe, diolch i'r drefn. Na gofyn i'r dorf gymryd tri cham yn ôl. Yn Gymraeg nag yn unrhyw iaith arall.

Welish i mo Cheryl Cole na llawer o'r artistiaid eraill ond ges i liw haul, hwyl ac atgofion melys.
Penwythnos mawr yn wir.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.