Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Am ddweud - Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:28, Dydd Gwener, 29 Hydref 2010

Godro'r ochr iawn, cwningod trafferthus, defaid peryglus a Gavin hyderus - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Dylai rhywun roi benthyg map iddo fo - Peter Hain AS wedi i'r Ysgrifennydd Diwylliant yn Llundain, Jeremy Hunt AS, ddweud mai manteisio ar dreialon Broadband yn swydd Henffordd fydd Cymru ond na fydd treialon yng Nghymru ei hun.
  • Byddwn yn annog pob busnes yng Nghymru i fynd arlein a gwneud y gorau o'r cyfrwng - Paul Zwillenberg awdur sy'n dweud nad oes gan 25% o fusnesau canolig eu maint yng Nghymru wefan o gwbl.
  • Yr hyn sy'n fy mhryderu i yw fod hyn yn digwydd yng nghanol llu o newidiadau eraill fel diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg er enghraifft a pheidio a'i gwneud yn angenrheidiol i is gangellorion prifysgolion Bangor ac Aberystwyth fedu Cymraeg - Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymateb i'r newidiadau ynglÅ·n â chyllido S4C.
  • Mae mam wedi ysgrifennu un o'r caneuon ar yr albwm gyda fi ac mae hi'n un o'r lleisiau cefndir ar gân arall. Mae hi wrth ei bodd yn y stiwdio a gwneud fideos ond wnaiff hi ddim perfformio yn fyw ar lwyfan rŵan - Jessica Lee Morgan, merch Mary Hopkin, sydd newydd .

  • Dylai Dylan Thomas a'i weithiau fod yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru - Yr Athro Peter Stead, sefydlydd Gwobr Dylan Thomas, yn ymateb i'r newyddion nad yw un allan o bob pedwar o blant ardal Abertawe wedi clywed am y bardd.
  • Mae cwningod yn rhan anhepgor o fywyd gwyllt gwerthfawr Prydain. Mae eu bywyd yn bwysig iddyn nhw fel ag y mae ein bywyd ninnau i ni - Fiona Pereira o 'Animal Aid' yn ymateb i alwad i ddifa cwningod sy'n tyllu meysydd criced, pêl-droed a rygbi yn y Trallwng.
  • Pan gychwynnodd o yr oedd Cymru fel gwlad trydydd byd a bu'n rhaid iddo dorri'n rhydd o hynny. I wneud hynny yr oedd yn rhaid iddo fod ddwywaith gwell na rhywun o Lundain - Aubrey Malone awdur cofiant Tom Jones, 'Still Rockin'.
  • Dydy ei jôcs o ddim yn briliant ond mae'n gwneud ei orau - Llefarydd yn cyhoeddi y bydd Lembit Opik yn cymryd rhan yn 'I'm a Celebrity . . .' y flwyddyn nesaf.
  • Mae gwarchod S4C a'i hannibyniaeth yn greiddiol i iachad yr iaith - Angharad Tomos yn 'Yr Herald Cymraeg' gan gyhuddo'r Toriaid o fod a chasineb tuag at Gymru sydd "yr un mor eirias" ag erioed .
  • Binia hi Johnny Bach, binia hi - Cyngor Rod Liddle, un o golofwyr y 'Times' a'r 'Spectator' ynglÅ·n ag S4C.
  • Jack, Dylan, Oliver ac Olivia, Ruby a Seren - y tri enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a merched yng Nghymru y llynedd yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
  • 35 munud - Yr amser a gymer i ddod o hyd i le parcio yn Aberystwyth yn ôl arolwg gan NCP.
  • Mae dyfodol Y Goleuad yn ddisglair! - Y Parchedig Harri Owain Jones a fu'n gofalu am newyddiadur yr Eglwys Bresbyteraidd rhwng dau olygydd. Bydd Y Parchedig Pryderi Llwyd Jones yn cymryd yr awenau yn olygydd newydd y rhifyn nesaf.


  • Byddwn i'n hoffi troi fyny a chael mynd ar y trên - y Cynghorydd Peter Read o Bentreuchaf ger Pwllheli yn ymateb i lle dywedir bod pobl mewn cadair olwyn yn methu â chael mynediad i hanner gorsafoedd trên Cymru a bod yn rhaid i berson mewn cadair olwyn roi rhybudd o 24 awr o'i fwriadu i deithio.
  • Syndod i mi oedd bod y cymydog caredig yn gadael y plant odro'r fuwch yr ochr anghywir. Yr ochr dde oeddech yn godro pob amser â dwylo - Hen Was Fferm o Sir Gâr yn rhoi preswylwyr 'Sonwdonia 1890' ar ben ffordd sut i odro mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Edrych ymlaen at gorcar o Å´yl Gerdd Dant - pennawd yn 'Y Cymro'. (Bydd yr Å´yl, Tachwedd 13 ym Mangor gyda llaw).
  • O ystyried tuedd ddihafal defaid tuag at hunanladdiad mae'n wyrth bod unrhyw beth yn cyrraedd plât rhywun - Y Tywysog Charles mewn digwyddiad i sefydlu .
  • Mae'r Chwe Gwlad yn dod ac fe fyddwn yn caru bod yn rhan o hynny hefyd - Gavin Henson yn ôl ar y cae rygbi, gyda'r Saracens. "Rydw i'n berson cadarnhaol a dwi'n meddwl y gallai ailafael yn fy sgiliau rygbi eto yn reit sydyn," meddai.
  • Rwy'n ofnus iawn ynglÅ·n â'r ffordd mae'r gêm yn esblygu ar hyn o bryd - Dr Brian Cunniffe o Brifysgol Morgannwg yn mynegi pryder am y cynnydd mewn anafiadau difrifol i chwaraewyr rygbi - 91 o anafiadau ym mhon 1,000 o orau chwarae yn 2009.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.