Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Môr Gymraeg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 07:00, Dydd Llun, 1 Tachwedd 2010

Gweld hanesyn yn y papur newydd am lyfr yr ydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ei ddarllen.

Hanes Elin Haf Davies, y Gymraes gyntaf i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd.

Wrth ddarllen am y gyfrol un peth a'm trawodd i, nad oes â wnelo ddim â'r antur ei hun mewn gwirionedd, oedd teitl y llyfr, Ar Fôr Tymhestlog.

Clawr y llyfr

Fel hyn roedd yr adroddiad Saesneg yn sôn amdano: "In her new Welsh book Ar Fôr Tymhestlog, which translates as On Stormy Seas she describes . . ."

Enghraifft berffaith o sut mae cyfieithu, er yn gwbl gywir, yn methu'n llwyr weithiau a chyfleu naws y gwreiddiol.

Byddant, bydd y di Gymraeg yn colli'n llwyr holl gyfoeth ac arwyddocâd yr Ar Fôr Tymhestlog yna a'i adlais o emyn Evan Evans - Ieuan Glan Geirionydd - (1795 - 1855) yn cael ei ganu ar y dôn T Hopkin Evans, Penmachno .

Ar Ragfyr 2, 2007, y cychwynnodd Elin, gyda'i chyfaill Herdip, ar ras rwyfo ar draws yr Iwerydd gan gymryd bron dri mis.

Yn dod o'r Parc ger Y Bala - lle bu'n amlwg yn ddiweddar yn y frwydr i gadw ysgol y pentref rhag cau - nyrs yw Elin wrth ei gwaith bod dydd ac ar fin cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Llundain ar gyflyrau metabolig plant.

A'r gwaith hwnnw fu'n rhannol gyfrifol am ei menter fawr.

"A hithau'n gweld plant yn dioddef yn ddyddiol fel rhan o'i gwaith roedd yn awyddus i fynd ati i godi arian at gronfa ymchwil i roi cymorth iddynt. Ac felly dyma ddechrau ar nifer o sialensiau gwahanol a aeth â hi ar draws y byd," meddai llefarydd ar ran cyhoeddwyr y llyfr, .

Felly, yn ogystal â'r ras rwyfo mae yn y llyfr hefyd chwe marathon mewn chwe diwrnod ar draws anialwch y Sahara a thaith mewn cwch rhwyfo gyda thair merch arall ar draws Môr India.

A dydi hi ddim yn un sy'n awr yn meddwl gorffwys ar ei rhwyfau ychwaith:

"Dwi'n mwynhau profi profiadau newydd o hyd. Fi ydy'r unig un o'r teulu sydd wedi teithio ymhell a gadael ardal y Parc felly mae'n rhaid ei fod o'n rhywbeth yn y ffordd dwi wedi cael fy ngwneud sy'n gwneud i mi fod eisiau mynd allan a thrafaelio mwy. Mi faswn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth eto yn bendant - mae'r môr Tawel ar ôl i'w wneud!" meddai Elin.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.