Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dawn dweud - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:03, Dydd Gwener, 5 Tachwedd 2010

Gareth Bale, Rhys Ifans a phensiynwr 86 aeth ar goll ar yr A55 - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Mi roddais i bedwar diwrnod o wyliau iddo fo yr wythnos diwethaf. Dos dramor am chydig ddyddiau medda fi ac mi aeth o i Gaerdydd i aros efo'i fam. Dyna sut fachgen ydi o - Harry Redknapp, rheolwr Tottenham Hotspur, ar y teledu am Gareth Bale.
  • Ydi o wedi priodi? Rhaid iddo fod yn ofalus iawn. Yn awr bydd yn darged pob 'Wag' - Max Clifford am Gareth Bale.
  • Fi ydy'r unig un o'r teulu sydd wedi teithio ymhell a gadael ardal Y Parc felly mae'n rhaid ei fod o'n rhywbeth yn y ffordd dwi wedi cael fy ngwneud sy'n gwneud i mi fod eisiau mynd allan a thrafaelio mwy. Mi faswn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth eto yn bendant - mae'r Môr Tawel ar ôl i'w wneud - Elin Haf Davies y Gymraes gyntaf i rwyfo ar draws Môr Iwerydd.
  • Dydy Gavin ddim yn hoffi methu a methu bod yn dda am wneud rhywbeth. Mae'n teimlo cywilydd ac yn hunan ymwybodol - Katya Virshilas, partner dawnsio Gavin Henson ar 'Strictly Come Dancing'.
  • Bydd y Cynulliad yn lle mwy diflas - Matt Withers, colofnydd gwleidyddol y 'Wales on Sunday' o glywed nad yw Eleanor Burnham yn debyg ogael ei hail ethol i'r Cynulliad yr etholiad nesaf.
  • Mae'r canolbnwynt eleni ar y 'genhedlaeth Affghan' yn arbennig o deimladwy wrth inni ddangos ein parch tuag at y rhai hynny sydd yn Affghanistan yn amddiffyn gwerthoedd heddwch a rhyddid - Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig, David Jones AS, am apêl pabi y Lleng Brydeinig.
  • Fe prynais i nhw ddydd Sadwrn, agor y bag a dyna oedd ynddo - Anthony Collins o Gaerdydd sydd wedi darganfod taten siâp hipopotamws mewn pecyn a brynodd yn Iceland.
  • Mae yna gryn bwyslais ar hawliau'r plentyn sy'n achosi'r drafferth ond ni ddylem anghofio [ychwaith] hawliau'r athrawon, y staff a disgyblion eraill - Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr yr undeb athrawon ATL Cymru.
  • Gallai'r effaith ddynol a chymdeithasol fod yn ddifrodus a gwastraffus: gallai'r gwir gost fod gyda ni am genedlaethau - , Prif Weinidog Cymru, am y toriadau.
  • Mae hwn yn benderfyniad trychinebus, ac yn gwneud y syniad o doriadau teg a bod pawb mewn twll gyda'n gilydd yn chwerthinllyd - a darlithydd yng Ngholeg Morgannwg.
  • Dyna ydi'r gwahaniaeth rhwng cyfoethog a thlawd. Cyfrifo mae'r cyfoethog, twyllo mae'r tlawd. Does gan y tlodion ddim digon o arian i fynd ar wyliau i wlad dramor, mae'r cyfoethog wedi symud eu harian yno - Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr yn ei golofn yn y 'Western Mail'.
  • Mae Awstralia yn mynd i fod yn anodd - Warren Gatland.
  • Mae'r côr wedi dod yn rhywbeth arbennig iawn i bawb sy'n gysylltiedig - Dr Ian Lewis o yn ymateb i ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sy'n dangos i ymaelodi â Chôr Tenovus gael effaith gadarnhaol ar gleifion canser gyda gwelliant yn eu hagwedd, eu iechyd meddwl a'u hymwneud cymdeithasol a lliniarwyd iselelder ysbryd a phoen.
  • Mae llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn dod yn guriad calon y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu - Y Cynghorydd Graham Thomas o Abertawe yn croesawu'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio llyfrgelloedd yng Nghymru o 13.9 miliwn yn 2008-09 i 14.7 miliwn yn 2009-10.
  • Gallai llaeth Cymru fod ein caviar ni - Dan Evans, llythyrwr yn y 'Western Mail' yn cymeradwyo cefnogaeth Sefydliad y Merched i ymgyrch yn galw am bris teg am laeth i ffermwyr.
  • Cyflog: cymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus - Hysbyseb yn y wasg ddoe am Brif Weithredwr newydd. Dywedir y bydd angen profiad, ymhlith pethau eraill "o gyflwyno newidiadau cymhleth".
  • Rwy'n croesawu'r llythyr ac yn diolch yn fawr i bawb arall sydd wedi ei lofnodi am eu safiad - Catrin Dafydd yn ymateb i oddi wrth 80 o Gymru "uchel eu parch" at y Gweinidog Treftadaeth yn gofyn am newidiadau yn y Mesur Iaith.
  • Roeddwn yn credu y byddai'r gadair yn rhodd arbennig i'r ardal - Nick Bullen, crefftwr o Dde Affrica, sydd wedi a wnaeth ar gopa'r mynydd Cadair Idris. "Roeddwn wedi clywed am biano yn mynd i gopa Ben Nevis a bwrdd pwl ym Mannau Brycheiniog. Mae'r gadair yn addas oherwydd enw'r mynydd ac mae'n gwbl fforddiadwy," meddai.
  • Un o nodweddion gwych y gymuned lofaol oedd eu bod yn gofalu am y rhai llai ffodus - Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, yn galw am gefnogaeth i rai sy'n methu gweithio.
  • Fe fyddai gennym sêr yng nghanol y dref a hyd yn oed arwydd 'Holywell' rywle ar fryn Pen-y-bâl - Y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn sôn am gynllun sy'n cael ei ystyried i greu "Holywell Boulevard" tebyg i'r 'Holywood Boulevard' yn Nhreffynnon gyda sêr i enwogion lleol fel Jonathan Pryce, Emlyn Williams, Mike England a Thomas Pennant.
  • Oherwydd ei oed, yr adeg o'r dydd a'r ffaith ei fod wedi ymlâdd penderfynodd y plismon beidio â'i arestio - Twrnai yn erlyn yn llys Llandudno ŵr 86 oed a ddaliwyd yn gyrru ar ochr anghywir yr A55 am o leiaf chwe milltir ar ôl mynd ar goll tra'n chwilio am Y Rhyl. Dywedodd na fydd byth yn gyrru car eto!
  • Mae'n sgript wych, cyfarwyddwr gwych a dydi'r arian ddim yn ddrwg - Rhys Ifans am ei ran newydd, Captain Hook.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.