Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tipyn o wagedd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:25, Dydd Mawrth, 16 Tachwedd 2010

Yr ydw i am godi fy nhestun y bore ma, fel petai, o Lyfr Y Pregethwr. Y bennod gyntaf, yr ail adnod.

Flynyddoedd lawer yn ôl bellach ar draws dalen flaen Y Ddraig Goch', newyddiadur Plaid Cymru, ymddangosodd y pennawd mewn llythrennau bras, "Cynlluniau Llafur ar gyfer Cymru".

Ac oddi tano dwll mawr gyda'r ddalen er yn wag ac yn wyn a'i neges yn gwbl eglur o safwynt y Blaid.

Digwyddodd rhywbeth tebyg yn y rhifyn diwethaf - ac olaf - o Y Llan, newyddiadur yr Eglwys yng Nghymru.

Adolygu yn Y Llan

Ar un ddalen yn hwnnw mae'r pennawd: "Adolygiad Y Cylchoedd Perffaith Aled Jones Williams Gwasg y Bwthyn £6.95" a llun o glawr y gyfrol ac o dan hwnnw dwll gwyn ac ar ei waelod "- D.Enw".

Y darllenwyr, meddai'r golygydd wrthyf, "i ddehongli'r blwch gwag fel y mynnent!"

Gan na fydd Llan arall - mae croeso ichi anfon eich dehongliadau yma ataf i - ac unrhyw sylw hefyd am y dull newydd a thrawiadol hwn o adolygu!

A thybed faint fydd o'r un farn a minnau fod hwn yn arferiad y gallai ambell i awdur ei fabwysiadu. Rhoi'r gorau iddi wedi'r pennawd.

Beth bynnag, ar gyfer y rhai hynny sydd wedi arfer efo adolygiadau mwy confensiynol gallaf eich cyfeirio at un ar ein gwefan lyfrau ni! Cliciwch ar y twll bach gwag hwn ___

A phe byddech yn chwilio am adnod berthnasol piciwch draw i Lyfr Y Pregethwr yna, Pennod 1 Adnod 2.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.