Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Angen dweud - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:35, Dydd Sul, 21 Tachwedd 2010

Dwy seren chwaraeon newydd, bwyell Cyllideb, ail agor tafarn ochr ffordd a diet torcalon - rhai o'r pethau i'n helpu gofio'r wythnos a fu. Dyfyniadau o'r wasg ac ar y cyfryngau Cymreig.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Yr ydw i wedi bod ar ddiet tor calon - Charlotte Church wedi colli pwysau.
  • Yr oedd Helena Bonham Carter a Tim Burton yno ond doedd gen i mo'r plwc i siarad â nhw - Steffan Rhodri yn dilyn premiere y ffilm Harry Potter newydd mae ynddi.
  • Yr ydym wrth ein boddau'n dychwelyd i ganolfan lle'r ydym wedi treulio cymaint o oriau yn perffeithio ein sgiliau snwcer - Nicky Wire o'r Manic AStreet Preachers a fydd yn perfformio yn Sefydliad y Glowyr y Coed Duon ar gyfer Radio 2 fis Rhagfyr.
  • Dydw i erioed wedi llifo fy ngwallt o'r blaen ond mae Cheryl wedi fy ysbrydoli - Lliw gwallt Cheryl Cole yn gwneud argraff fawr ar Imogen Thomas.
  • Ponty - prifddinas llofruddiaeth Cymru - Pennawd yn y 'Wales on Sunday' uwchben erthygl am Bontypridd.
  • Penderfyniad Radio 1 oedd o, mae pobl yn tybio mai fy un un oedd o. Ond y maen nhw'n canfod talent newydd felly dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ddim byd personol - Bethan Elfyn yn y 'Wales on Sunday' am ei hymadawiad o Radio 1.
  • Yr ydym yn benderfynol o wneud yr hyn sydd ei angen i sefyll dros bobl Cymru a pharhau i ddarparu'r gefnogaeth iawn i'r rhai sydd ei hangen fwyaf - Jane Hutt AC yn cyhoeddi cyllideb ddraft y Cynulliad.
  • Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cyngor gan Heddlu Dyfed-Powys - Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan AS, yn ailfeddwl ynglÅ·n â dod i siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Mae'r holl beth yn ymddangos yn ddoniol ond dydi o ddim mewn gwirionedd - Anthony Rose 49 oed y bu'n rhaid iddo ffonio pencadlys yr heddlu wedi iddo gael ei adael yng nghyntedd gorsaf heddlu'r Rhyl a'r drws i fynd allan wedi cloi. "Mae'n rhaid eu bod wedi mynd am eu cinio," meddai am blismyn yr orsaf.
  • 4 waleS C england - teitl drama newydd am helyntion S4C gan fyfyrwyr Ysgol Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau Prifysgol y Drindod dewi Sant.
  • Mae darnau sy'n gwneud i fi grio ynddi - Dewi Prysor yn 'am ei nofel newydd, 'Lladd Duw'.
  • Mae'n afon swynol sy'n gafael yn nychymyg pawb - Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru wedi i Afon Gwy gael ei dewis yn . "Hudolus a thragwyddol," oedd un disgrifiad ohoni.
  • Yn rhy aml, plant yw'r dioddefwyr tawel cudd mewn achosion o drais yn y cartref. Gall hyn gael effaith ddinistriol ar eu datblygiad, eu haddysg, iechyd a sgiliau cymdeithasol - Cheryl Martin, mudiad Cymorth i Ferched yn dilyn cyhoeddiad i 1,000 o blant orfod y llynedd.
  • Â chyffur i ast ddolurus, a'n dawn
    I dynnu llo'n hwylus,
    neu drin hesbin, boed hysbys,
    Ii unrhyw fro awn ar frys
    - Bruce Griffiths yn yn dyfynnu englyn mewn hysbyseb gan gwmni milfeddygon yn Nolgellau gan holi pwy bia'r clod am yr englyn.


  • Mae fy nghalon yng Nghymru - Mary Hopkin.
  • Os yw yng nghanol yr wythnos rwy'n credu y byddai'n syniad da iawn cael gwyliau banc - David Cameron y Prifweinidog wrth sôn am briodas y Tywysog William a Kate Middleton.
  • Fe'm sicrhawyd nad oes yna unrhyw gynlluniau i breifateiddio y Bathdy Brenhinol - Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Cymru.
  • Dyma'r lle'n magwyd ni, felly rydym yn deall pwysigrwydd y gymuned - Dewi Gwynne sydd, gyda'i wraig, y tu ôl i ar y ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth wedi dwy flynedd ynghau.
  • Yr ydw i bob amser wedi bod â hyder yn fy ngallu fy hun ond wnes i ddim meddwl y byddai Lloegr yn digwydd y tymor hwn - Jay Bothroyd, y chwaraewr pêl-droed cyntaf erioed o glwb Caerdydd, ac unrhyw glwb Cymreig, i'w ddewis i chwarae i Loegr.
  • Yr oedd yr holl brofiad yn llawer mwy nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl - George North yn dilyn ei gêm gyntaf i Gymru.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.