Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gweld drwyddynt

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:03, Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2010

Does yna ddim cymaint o sôn amdanyn nhw heddiw ond yr oedd straeon celwydd golau yn bethau a roddai gryn dipyn o bleser ddyddiau fu.

Hen longwr, er enghraifft, yn cofio mordaith yr oedd hi mor oer yr oedd gorchmynion y capten yn rhewi yn yr awyr cyn cyrraedd y criw wrth iddo eu gweiddi.

Digon tebyg i'r wythnos hon yn rhai lleoedd siŵr o fod.

Pennod yn y gyfrol Cymeriadau Maldwyn a olygwyd gan Hedd Bleddyn wnaeth imi feddwl am straeon o'r fath gan fod yna ambell un reit dda yma.

Un am Tom Morris, Garreg Ddu, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn saethu llwynog a foltiodd allan o'i ddaear.

Ac meddai:
"Ro's i gatren arall i fewn [yn y gwn] rhag ofn fod 'na lwynog arall yno, a dyma fo'n boltio.

"Codais y gwn a thynnais y trigar. Y peth nesaf, roedd Polos ymhob man - roeddwn wedi rhoi paced o Polos i mewn yn lle catren. Ac mi ddengodd y llwynog . . ."

Mae stori arall am gymeriad o'r enw Sam Mawr yn mynd yn ei gar un diwrnod a ffesant yn hedfan i mewn drwy ffenest y gyrrwr ac allan drwy ffenest y teithiwr yr ochr arall.

Ac meddai Sam:
"Roeddwn i'n mynd yr un ffordd ymhen wythnos, a meddyliais, 'Reit, boi,' a chaeais ffenest y passenger . . . a dyma'r ceiliog ffesant i fewn o flaen fy nhrwyn drwy fy ffenest i a hedfan yn syth at ffenest y passenger. Cydiais ynddo a rhoi tro yn ei gorn, a dyna be gawson ni ginio dydd Sul."

Stori arall yn y gyfrol aeth a'm bryd yw'r un sy'n wers o bwysigrwydd labelu cywir a diamwys.

Y golygydd, y trio hwn, yn prynu hanner cyw iâr parod i'w dad gweddw.
"Diolchodd amdano ac aeth ag ef adref i'w ganlyn. Ymhen ychydig dyma'r ffôn yn canu a Nhad yn gofyn, 'Faint chwaneg o amser mae'r 'half cooked chicken' yna isie yn y ffwrn?'"

Cyhoeddir Cymeriadau Maldwyn gan Wasg Gwynedd yn rhan o Gyfres Cymêrs Cymru, £5.95.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:39 ar 2 Rhagfyr 2010, owen wyn ysgrifennodd:

    Onid yw hi'n anhygoel sut mae Maldwyn gyda llond dwrn o siaradwyr Cymraeg wedi magu cymers fel hyn!

  • 2. Am 15:24 ar 2 Rhagfyr 2010, Glyn ysgrifennodd:

    Ers imi sgrifennu y bore ma tynnwyd fy sylw at erthygl gan y llenor Lloyd Jones ar wefan y Ö÷²¥´óÐã am straeon Celwydd golau. Y cyfeiriad yw
    /cymru/gogleddorllewin/safle/eichllais/pages/celwydd.shtml

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.