Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lluwchio geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:42, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Cathod mawr gwyllt, rheoli S4C a saethu traed - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni ambell i sylw doniol, difyr neu ddwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Er nad ydyn nhw'n bodoli'n swyddogol yn ôl yr heddlu a chofnodion bywyd gwyllt fe alla i ddweud wrthych chi eu bod nhw o gwmpas, heb os - Danny Nineham sy'n cael ei ddisgrifo fel ymgynghorydd cathod mawr yn ymateb yn y 'Wales on Sunday' i adroddiadau am gathod mawr yn lladd defaid ac ati mewn rhannau o Gymru.
  • Yr oedd yn amlwg dan gymaint o deimlad oedd hi - yr oedd yn anerchiad emosiynol iawn. Dydw i ddim yn adnabod Eleanor yn dda iawn ond yr oeddwn yn teimlo'n eitha drwg drosti ac eisiau ei chofleidio'n dyn - Ymateb person nad oedd am ei enwi i araith gan Eleanor Burnham AC yn dilyn y cyhoeddiad ei bod wedi colli ei lle ar ben rhestr ymgeiswyr y Rhyddfrydwyr yng Ngogledd Cymru i'r Cynghorydd Aled Roberts.


  • Yr ydw i'n meddwl fy mod i'n mynd i ddeffro a chanfod mai breuddwyd oedd y cyfan - Scott Thomas sydd wedi rhedg gyda'i frawd Rhys 2,000 o filltiroedd ar draws yr Unol Daleithiau - pellter sy'n cyfateb i 74 marathon.
  • Yr Aelod Seneddol dros gylchgrawn Country Life - disgrifiad Matt Withers yn y 'Wales on Sunday' o Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
  • . . . y personol wedi cael mwy o sylw gan rai na'r perthnasol - John Walter Jones, Cadeirydd S4C yn mynd at beth a dybia sy'n wraidd y broblem yn .
  • Fi sy'n gorfod mynd i'r siop a pobol yn dweud: "Be ddiawl sy' wedi digwydd i dy Sianel di?" - Bryn Fôn sydd newydd gyhoeddi na fydd yn codi trwydded deledu oherwydd ei anhapusrwydd â'r ffordd mae Llywodraeth Prydain wedi trin S4C.
  • Mae gan Ioan Gruffudd glwb rygbi yn ei garej felly mae popeth yn iawn ar gyfer y Chwe Gwlad - Yr actores Eve Myles 'Torchwood' sydd yn symud i Holywood.
  • Rhaid inni roi'r gorau i saethu ein hunain yn ein troed - Warren Gatl;and yn dilyn y gêm yn erbyn Seland Newydd.
  • Eu cosbi am fod yn Saeson - Pennawd dalen flaen y 'Daily Mail' (Punished for being English) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad ar daliadau myfyrwyr. Aeth ymlaen i sôn am "apartheid ffioeodd" yn erbyn myfyrwyr o Loegr.
  • Eog mwg puprog Black Mountains gyda phasta pesto berwr - Pryd ar daflen Gwir Flas Cymru ar y cyd a'r 'Western Mail' a'r 'Daily Post' .
  • Mae'n anodd i frawd a chwaer ganu caneuon serch efo'i gilydd - Emyr Gibson sydd newydd gyhoeddi CD, 'ffrindiau', gyda'i chwaer Siân Wyn.
  • Mae i'r pris gefnogaeth ar draws y pleidiau ac mae wedi bod yn boblogaidd gyda'r cyhoedd bob amser - Y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson AC, yn cyhoeddi y bydd yn rhaid talu pum ceiniog am bob bag plastig o fis Hydref nesaf.
  • Yn hytrach na mynd i ddyled a phoeni am arian mae Cymdeithas y Plant yn gwahodd pobl i ailddarganfod lawenydd traddodiadol yr Wyl - Bob Reitemeier, Prif Weithredwr Cymdeithas y Plant.
  • Mae llawer o bobl ofn sefyll a siarad. Fûm i erioed yn un o'r rheini. Ers imi gael fy llusgo yn bump oed i adrodd rhywbeth yn y capel bob mis dydw i ddim wedi cael hynny'n broblem - Carwyn Jones AC, Prif Weinidog y Cynulliad.
  • Mi allen ni, wrth gwrs, roi John Walter Jones yn hyfforddwr ar dim rygbi Cymru a Warren Gatland yn gadeirydd S4C. Mi fyddai ysbryd ychydig mwy tanllyd yn help efo'r naill ac ychydig mwy o bwyll yn handi i'r llall - Dylan Iorwerth, Golygydd Cyfarwyddwr Golwg yng ngholofn Gymraeg dydd Mercher yn y 'Western Mail'.
  • Cylchgrawn siwdaidd, hunandybus oedd yn gwerthu llai na nifer y troednodiadau yn yr erthygl olygyddol - Lefi Gruffudd yng Nghylchgrawn dydd Sadwrn y 'Western Mail' yn gofidio bod cymaint o arian "yn cael ei daflu" at y cylchgrawn 'Tu Chwith' ddechrau'r Nawdegau.
  • Ar yr unfed awr ar ddeg erfyniwn yn dawer ar ein gwleidyddion i fachu ar y cyfle unigryw i osod y gyrraeg sylfaen honno yn ei lle'n ddiogel - Richard Wyn Jones, Betri George a Guto Prys ap Gwynfor yn galw am i'r Mesur Iaith roi statws swyddogol i diamod i'r Gymraeg.
  • Rwy'n gadarn o'r farn y bydd y Mesur arfaethedig, a'r strategaeth iaith Gymraeg y byddwn yn ei chyhoeddi'n fuan, yn adlewyrchu'n llawn y ffaith ein bod yn benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu - Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad.
  • A470 - Ateb Lisa Gwilym i gwestiwn "Beth sy;n eich gwylltio fwyaf am Gymru?"

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.