Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ei hanfarwoli gan ofid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:42, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Mewn rhyw sinema ddwy a dimai ddigon shabi yng Nghroesoswallt bron i ddeugain mlynedd yn ôl y gwelais i'r ffilm ddadleuol Last Tango in Paris gyntaf.

Yr oedd yn dipyn o antur. Yn un o'r pethau hynny i'w ychwanegu at foddi cath a phrynu caneri T H Parry-Williams gan fod hon yn ffilm oedd yn destun dadlau mawr ar y pryd a rhai lleoedd yn gwrthod caniatâd i'w dangos.

Yr oedd yn rhywfaint o syndod nad oedd tref geidwadol barchus Croesoswallt yn un o'r rheini.

Marlon Brando 48 oed ac actores ifanc, dlos, 19 oed, nas gwelwyd ar y sgrin o'r blaen, Maria Schneidr, oedd yn actio'r ddau brif gymeriad, Paul a Jeanne.

Ef yn ŵr gweddw dim ond newydd golli'i wraig a hithau'n ferch ifanc wedi dyweddïo yn cyfarfod ei gilydd mewn fflat gwag ym Mharis lle mae o'n ei threisio gyda chymorth hanner pwys o fenyn mewn golygfa sydd, erbyn hyn, yn un o rai eiconaidd y sinema.

Ffilm sy'n astudiaeth ddirdynnol o berthynas rhwng dau yw hi ond yr olygfa amrwd a chiaidd hon sy'n cael ei chofio a hithau wedi syfrdannu cymaint ar adeg pan oedd y sinema yn rhywbeth dipyn mwy sidêt na'r hyn a welwyd ar ddramâu teledu, hyd yn oed, ers hynny.

Wrth gwrs, yr hyn a ddaeth â'r ymweliad â sinema Croesoswallt yn ôl i gof oedd darllen am farwolaeth yr actores yn 58 oed ddydd Iau diwethaf yn dilyn brwydr hir yn erbyn canser.

Er iddi gymryd rhan mewn dau ddwsin neu fwy o ffilmiau wedyn - y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhai Ffrengig - ni chafodd yr actores byth wedyn yr un sylw ag a gafodd yn sgil y Last Tango a gyfarwyddwyd gan Bernardo Bertolucci. Yr wyneb hwnnw o ddiniweidrwydd ifanc yw'r cof ohoni a erys.

Rhyfedd hynny gan ei bod yn rhan hefyd y gofidiai iddi ei chwarae yn ôl cyfweliadau a wnaeth wedyn gan gyhuddo Brando o fod wedi cymryd mantais arni. Camgymeriad mawr ei bywyd, meddai, oedd y rhan a ddaeth a chymaint o amlygrwydd iddi.

Ie, mewn chwerwedd a chyda gofid yr edrychai hi - a oedd yng nghanol y peth - yn ôl ar yr hyn y mae dilynwyr ffilm yn ei gofio fel ennyd eiconaidd sydd mor gofiadwy â golygfa'r gawod yn Psycho neu ymddangosiad cyntaf un Bond - James, Bond yn Dr No.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.