Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn gair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:18, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Wylit, wylit, Lywelyn - golwg gohebydd papur newydd ar hen drychineb. Detholiad o ddyfyniadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

A gwahoddiad i chi rannu sylwadau dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi . . .

  • Ym myd trychinebau cenedlaethol, mae colli i Loegr gyfartal â thorri pen Llywelyn y Llyw Olaf - Carolyn Hitt yn y 'Western Mail' wedi'r gêm yn erbyn Lloegr. Iddi hi efallai.
  • Ac mae'n gwneud imi chwerthin. Mae'n ddieflig o olygus - a phowld - ac yr ydw i'n ei fwynhau gymaint, fatha trît - Duffy yn dal i werthfawrogi ei chariad Mike Phillips, er gwaethaf barn gohebwyr chwaraeon.
  • Dydw i erioed wedi cymryd llawer o sylw o ymosodiadau dienw gan eu bod fel arfer ymhell o'r gwir - Carwyn Jones AC y Prif Weinidog yn dilyn cwyn fod aelodau Llafur dienw wedi bod yn ei bardduo.
  • Gofynnodd y cwestiwn ar ddiwedd gwyliau ardderchog ar arfordir Mecsico ac wrth gwrs fe ddywedais y gwnawn - Katherine Jenkins yn egluro sut y bui iddi hi a Gethin Jones ddyweddïo.
  • Wrth i gwmnïau alcohol noddi digwyddiadau, mae'r neges yn cael ei chyfleu bod yfed alcohol yn normal, a hyd yn oed yn angenrheidiol er mwyn cael hwyl a mwynhau'r fath ddigwyddiadau - .
  • Y mae'n help mai byd rygbi ydyw; sydd, a siarad yn gyffredinol, yn llawer mwy deallus a soffistigedig na byd pêl-droed yn nhermau'r bobl sydd yn y gêm ac o'i chwmpas - Christian Louboutin y dylunydd esgidiau a ffrind newydd Gareth Thomas yn egluro yn y 'Wales on Sunday' pam y cafodd y cyhoeddiad fod Thomas yn hoyw ei dderbyn ymhlith chwaraewyr rygbi.
  • 37 y cant - y ganran uchel o famau yng Nghymru sy'n parhau i smocio pan fo nhw'n feichiog; mwy nag yn unman arall yn y Deyrnas Gyfunol. Maen nhw hefyd yn yfed mwy o alcohol na merched beichiog gwledydd eraill Prydain.
  • Yr oedd yn drysor cenedlaethol Cymreig; fe ddylen nhw fod yn codi cofebau i Margaret - Peter Watkins-Hughes, cyfarwyddwr ffilm yn talu teyrnged i Margaret John.

  • Po fwyaf roeddwn i'n paentio neu'n ceisio paentio yn ei arddull o, po fwyaf roeddwn i'n sylweddoli pa mor athrylithgar oedd o, mor anhygoel o dda - yn sôn am y profiad o geisio peintio llun yn arddull Kyffin Williams ar gyfer cyfrwes deledu newydd sy'n cychwyn Chwefror 16 ar Ö÷²¥´óÐã1.
  • Er gwaethaf ambell fisteg ramadegol credaf ei fod yn gwneud mwy dros yr iaith na llond bws o ddarlithwyr holl acadymis elitaidd Cymraeg - Meleri Morris, Pontadawe, mewn llythyr yn 'Y Cymro' yn canmol cyfraniadau John Hartson ar raglen 'Sgorgio', S4C.
  • Dwi'n meddwl y dylai'r Orsedd fod yn wledd i'r llygad ac yn rhywbeth cyffrous yn weledol - Ela Jones, Ysbyty Ifan, sydd newydd ei dewis yn Feistres y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd.
  • Cyfrwng . . . yw eglwys - nid diben. Cyfrwng gwaith achubol Duw yn ei fyd. A chredaf y gallwn geisio gwneuthur hynny yn well gyda'n gilydd - nid ar wahân - Arthur Meirion Roberts, Pwllheli, yn trafod undod eglwysig yn 'Y Goleuad'.
  • Dydw i ddim yn chwarae golff, felly ar ôl i mi ymddeol dw i'n siŵr y bydda i'n gwneud yn union yr un pethau . . . dilyn bywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru, cadw mewn cysylltiad gyda phawb a thrio peidio â mynd yn hen - Gwilym Owen, ar drothwy ei ben-blwydd yn 80 yn cyhoeddi y bydd yn ymddeol fis Gorffennaf.
  • Rydym yn delio gydag un o'r darnau mwyaf annheg o ddeddfwriaeth, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn - yn ymateb i gynlluniau i leihau nifer aelodau seneddol Cymru.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.