Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Deg teg?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 20:09, Dydd Mercher, 13 Ebrill 2011

A dyma hi wedi ei chyhoeddi - Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.

"Rhestr ddoeth a didramgwydd," meddai un cyfaill. Ac yn wir, go brin bod yna lyfr arni i godi gwrychyn neb gyda dewis sy'n adlewyrchu'n eithaf teg hynt cyhoeddi yng Nghymru dros y flwyddyn.

Bydd yn ddifyr nawr gweld pa dri o'r rhain gaiff eu hidlo i grochan y rhestr fer.

Pwy sydd am godi'i ben dros y pared a chynnig enwau cyn i'r beirniaid wneud?

Dwi'n rhyw amau y bydd Bydoedd, Ned Thomas yn un o'r tri a thybed a ydi Lladd Duw yn nofel ddigon mawr i'w gwneud hi. Mae na dipyn o ganmol wedi bod arni ar lawr gwlad.

Pe byddai awydd i ddyfarnu ar sail yr hyn sy'n cael ei alw'n "gyfraniad oes" mewn cymaint o feysydd y dyddiau hyn beth fyddai hynt Gwyn Thomas a'r ysgrifwr diwyd a difyr William Owen a ddywedodd mai ei gyfrol ef ar y rhestr yw ei un olaf hefyd.

Be da chi'n i feddwl? A be oedda chi'n i feddwl o'r ffordd newydd o ddatgelu?

Cyfarfod yn y de a'r gogledd fu'r drefn dros y blynyddoedd diwethaf ond i stiwdio deledu yr aed eleni i enwi'r llyfrau.

A digwyddiad digon syber oedd o hefyd. Nid be oeddwn i wedi'i ddisgwyl er imi fod yn un o'r rhai fu'n cwyno am lawr gwichlyd man cyfarfod y gogledd ym Mhrifysgol Bangor y llynedd a'r flwyddyn cynt gyda mwy fynd ar y gwin na'r llyfrau oedd ar werth.

A finna wedi disgwyl dipyn o sbloet, cyhoeddiad cwbl ddigynnwrf oedd un Wedi 7 a rhywun bron disgwyl clywed caead arch yn cau wedi i'r llyfrau gael eu henwi mor bruddglwyfus.

Wedyn cafwyd sylwadau o amgylch y bwrdd gan y tri beirniad.

Os mai'r bwriad oedd creu cyffro a chynnwrf a pherswadio rhywun i ruthro allan i brynu un neu fwy o'r deg cyfrol wel . . .

Wedi'r disgwyl mawr hefyd . . . trueni.

Na, mae trefnwyr Llyfr y Flwyddyn cyn belled ag erioed o wneud y digwyddiad yn DDIGWYDDIAD..

A be wnewch chi o logo'r gystadleuaeth eleni?


Logo


Clyfar ei symylrwydd ta cwbwl ddiddychymyg?
Ffrwyth meddwl dwys a dyfal ynteu rhywun wedi sylweddoli'r munud olaf eu bod wedi anghofio gofyn i rywun wneud un?
"Roeddwn i'n meddwl mai chdi oedd yn mynd i ofyn." "A finna'n meddwl ma chdi . . ."

Mi wn i be dwi'n i feddwl! Pe byddai yna gystadleuaeth tybed fyddai'r wyres fach acw wedi bod yn y ras ar sail be gawson ni? A dydi hi ddim yn darllen eto.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.