Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gweld eisiau dau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:44, Dydd Iau, 14 Ebrill 2011


"Dim byd i godi gwrychyn neb," medda fi neithiwr wrth sôn am Restr Hir Llyfr y Flwyddyn.

Peth peryg iawn i'w ddweud yng Nghymru o bobman lle mae hi mor hawdd codi gwrychyn pobl a sathru cyrn.

Ac wele yn y bore ma, Lefi Gruffudd o'r yn siomedig nad yw Awr y Locustiaid gan Fflur Dafydd ar y rhestr.

"Yn sicr mae hi'n awdures sy'n haeddu bod yna yn fy marn i ond chwaeth y beirniad sy'n cyfrif," meddai Lefi.

Ac rwy'n deall bod Sioned Williams, adolygydd uchel iawn ei pharch, yn gweld eisiau'r gyfrol hon hefyd mewn cofnod Facebook.

Mae sawl un o'r farn i'r beirniaid fod yn esgeulus hefyd yn hepgor hunangofiant Meic Povey , Nesa Peth i Ddim.

"Fe werthodd . . . yn dda iawn, a chael ei ailargraffu o fewn misoedd i'w gyhoeddi," meddai Non Tudur yn Golwg.

Gwir hynny - mi'r oedd o yn hunangofiant nodedig iawn a ddarllenwyd yn eang.

Tybed faint mwy o lyfrau y gwelir eu colli cyn diwedd y dydd?

Digon i lunio rhestr newydd?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.