Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae pobl yn dweud . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:09, Dydd Gwener, 15 Ebrill 2011

Dyma nhw - detholiad o ddyfyniadau wythnos arall yng Nghymru. Sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Yn dawel bach, dw i wrth fy modd - Dewi Prysor wedi i'w nofel 'Lladd Duw' ennill ei lle ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn.
  • Dyma ddatganiad clir o hyder mewn ysgrifennu Cymraeg cyfoes - Gerwyn Williams, un o'r beirniaid, yn dilyn cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn.
  • Efallai bod ei straeon hi gystal os nad gwell na rhai o'i nofelau sydd wedi ennill. Yn sicr mae hi'n awdures sy'n haeddu bod yna yn fy marn i ond chwaeth y beirniad sy'n cyfrif - Lefi Gruffudd yn synnu nad yw Awr y Locustiaid gan Fflur Dafydd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn.
  • Gweddiwn y byddi'n datgloi cadwynau pobl o'r newydd - Gweddi ar gyfer y Pasg gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill yn galw am ryddhau "y sawl sy'n glwm i alcoholiaeth a chamddefnydd o gyffuriau; y sawl sy'n gaeth i'w hunanoldeb ac i drais; y sawl sy'n cael eu cam-drin a'u hamharchu; y sawl sy'n dyhoedu am fywyd a rhyddid".
  • O hyn ymlaen, enmw newydd y mudiad fydd Mudiad Meithrin - Hywel Jones, Prif Weithredwr y fel ag oedd, yn datgelu gan ychwanegu bod y Mudiad yn un "sydd bellach wedi datblygu'n fudiad o statws cenedlaethol ac sy'n cael ei gydnabod fel arbenigwyr y blynyddoedd cynnar yng Nghymru".
  • Gan nad yn y Fandarineg neu'r Gantonaeg y mae'r neges eithr yn hytrach yn y Saesneg yn unig, gallwn gymryd mai Saeson yw'r uned ethnig sydd ag angen arweiniad; heb anghofio y Cymry di-Gymraeg, wrth gwrs - Pong Ping o Shanghai yn dod i'w gasgliad ei hun mewn llythyr yn Y Cymro am arwyddion sut i ddefnyddio tai bach ym Mhrifysgol Bangor.
  • Gweld colofnydd teledu yn Y Goleuad, y papur crefyddol, yn dechrau rhoi marciau i raglenni S4C. Wnan nhw ddim gwneud yr un peth efo pregethwyr siawns? - Madog Mwyn yn .
  • Blêr - Aled Jones Williams yn ateb y cwestiwn 'Sut le yw eich cartref?' yn .

  • Rwy'n hoff iawn o fwyta cawl pys,
    Sy'n gwneud i fi wynto o chwys.
    Trueni am hynny,
    Rwy wir wedi synnu
    Fod neb wedi galw'r polîs
    Limrig o Ysgol Bro Brynach, ffrwyth un o weithdai Bardd Plant Cymru, Dewi Pws.
  • Mae yna blant sydd ond eisiau eistedd a chgwarae ar gyfrifiadur ond y mae yna hefyd blant sydd eisiau gwneud pethau. Mae plant erioed wedi bod eisiau anturiaeth - Gill Clay o'r Bont-faen, wyres Robert Baden Powel, yn canu clodydd mudiad y Sgowrtiaid a'r ffaith bod mwy o ferched yn ymddiddori ynddo.
  • Yr ydym yn disgwyl i'r tagfeydd fod ar eu gwaethaf Ddydd Iau Cablyd, Ebrill 21 - Paul Leather o'r AA yn rhagweld trafferthion traffig dros y gwyliau banc. Gwerth cofio, efallai, mai "Dydd Iau Gofid", yw'r enw arall ar Ddydd Iau Cablyd, 'Maundy Thursday'.
  • Yr ydym, fi a Hayley, yn cael sgyrsiau hirion oherwydd ei bod hi o Gymru a finnau'n methu'i deall hi - David Hasselhoff am ei gariad newydd, Hayley Roberts o Lyn-nedd.
  • Nid yn unig byddai hynny'n creu llanast, ond go brin y byddai'n gweithio - o Athrofa Prifysgol Caerdydd, a fu'n canmol rhinweddau mêl Manuka, yn rhybuddio pobl bod gwahaniaeth rhwng mêl a mêl mewn gogoniant. "Rydym ni wedi bod yn defnyddio mêl o gryfder arbennig, nid y stwff y byddwch yn ei weld mewn siopau," meddai.
  • Does dim problem o gwbl gan y gwesty gyda'r iaith Gymraeg yn y gwesty . . . Dim ond mater o safonau diogelwch yw hyn - Ruth Hogan, rheolwraig gwesty ar Ynys Môn yn amddiffyn llythyr anfonwyd at y staff yn .

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.