Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hel geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:56, Dydd Sadwrn, 21 Mai 2011

Ein casgliad diweddaraf o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


  • Yn amlwg, synnwyr cyffredin yw nad ydym yn caniatáu ceffylau a merlod ar drenau - Llefarydd Trenau Arriva Cymru wedi i ddyn geisio yn Wrecsam. Aeth â'r ceffyl i Ysbyty Maelor hefyd "ond doedden ni ddim yn gallu trin y ceffyl" meddai llefarydd o'r adran ddamweiniau ac argyfyngau. "Gofynnwyd yn garedig iddo adael."
  • Rwy'n siwr y byddai'r ferlen . . . wedi bod yn llai o fygythiad i deithwyr na rhai o'r crymffastiau / iobs meddw ac ati a ganiateir yn ddigwestiwn - Prue Buck, Dinbych, mewn llythyr yn y 'Daily Post' heddiw.
  • Dw i wedi gweld marwolaeth y Gymraeg yng Nghorris . . . rhes o dai a dim ond dau o'r trigolion yn siarad Cymraeg - un hen lanc a'r llall yn hen wraig heb blant. O'n i'n gwbod, wrth siarad efo nhw, y bydd yr iaith Gymraeg wedi marw unwaith yr ân nhw. Fydd yna ddim Cymraeg i'w i'w chlywed yn y lle yna byth eto - Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn siarad gyda'r 'Cym,ro' yn dilyn pleidlais Gwynedd i gau ysgol Y Parc ger Y Bala.
  • Daeth ag urddas i'r swydd gan sicrhau fod gan y Cynulliad enw da o fewn Cymru a'r Deyrnas Unedig a hyd yn oed tu draw i'r ffiniau hynny - Yr oedd Phil Davies, arweinydd gweithredol y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ymhlith y rhai fu'n talu teyrnged i'r cyn lywydd Dafydd Elis-Thomas ddydd Mercher.
  • Os mai fi fydd yr arweinydd mi fydda i yn arwain Plaid Cymru i mewn i'r etholiad nesaf a thu hwnt - Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn ''.
  • Yr ydw i'n gwbl fodlon gweithredu'n uniongyrchol - Iolo Williams yn gwrthod cynllun peilonau trydan yng Nghanolbarth Cymru .
  • Yr ydw i'n hoffi John Humphrys, mae'n berson dymunol. Mae o'n codi pobl yn y bore - Yr arlunydd Tracey Emin.
  • Roedd cân gyda'r gair Angel yn y teitl yn ymddangos fel yr anrheg pen-blwydd perffaith - sy'n camu cân gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru.
  • Dduw, Greawdwr y cread a chynlluniwr yr holl genhedloedd, dyro i arweinwyr y genedl fechan hon olwg amgenach ar ehangder Dy deyrnas ple mae undod cyfiawnder, heddwch a chymod yn cael ei gynnal trwy onestrwydd, goddefgarwch a chydweithio . . . Geiriau cyntaf Gweddi Dros y Cynulliad yn 'Y Goleuad'.
  • 'Sgidie Tacsi' mae ffrind a finne yn galw esgidiau felly oherwydd 'smo chi'n bwriadu cerdded mwy nag ychydig gamau ynddyn nhw - Siân Thomas yn cyfaddef ei bod yn euog o brynu sgidie ar sail eu golwg yn hytrach na'u hymarferoldeb. Mae Siân yn un o nifer sy'n cefnogi ymgyrch 'Sodlau'n Siarad' Merched y Wawr, Achub y Plant a'r Eisteddfod Genedlaethol.
  • Dydw i ddim yn wleidyddol gywir iawn. Y mae i ryddid mynegiant ei derfynnau - Christine Williams o UKIP wrth addo, yn y 'Guardian', gweithredu i rwystro Anjem Choudary rhag ymddangos yng Ngŵyl 'How the Light Gets In'. Yn ôl y papur mae'r ferch a anwyd yn Southpport wedi priodi ffarmwr o Gymro ac yn gwybod geiriau GwÅ·r Harlech.


  • Hoffwn . . weld pobl y cyfryngau yn defnyddio 'llwfrgi' i ddisgrifio rhywun llwfr, yn hytrach na'r gair aflednais maent mor hoff o'i ddefnyddio - Rolant Ellis, Aberystwyth, mewn llytrhyr yn .
  • Tybed oes arwyddocad i'r olygfa [yn y gyfres deledu Jabas2] lle oedd cymeriad y Bnr [Llyr Huws] Gruffydd yn dangos ei din i'r sawl a ddaeth i'w herio? Mae digon o ffenestri gwydr lawr yn y Cynulliad - Sïon Amlyn, Trefor, mewn llythyr yn 'Y Cymro'.
  • Dydi llyfrau ddim yn hel llwch os ydyn nhw'n cael eu defnydd - Geraint Vaughan Jones y nofelydd o Flaenau Ffestiniog yn 'Golwg'.
  • Dyma ddwy nofel wych am ddylanwad y byd ar Gymru ac un campwaith o gofiant am Gymru yn y byd. Rwy'n siŵr y bydd cyfraniad y tri awdur i lenyddiaeth Gymraeg yn arhosol - Dr Simon Brooks, cadeirydd y beirniaid, wrth gyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, nos Iau.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.