Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pobl fu'n dweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:50, Dydd Gwener, 27 Mai 2011

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

  • Gydag oddeutu 75,000 o bobl wedi enwi Ryan Giggs ar 'Twitter' y mae'n amlwg yn anymarferol eu carcharu i gyd -
  • Gan fod Prifysgol (Cymru gynt) Bangor yn rhoi Cymrodoriaeth i Duffy (ar sail ei chyfri banc mae'n debyg) oni ddylai'r Orsedd roi coban i Imogen am ei chyfraniad (di-goban) i fyd y peli? - Twm Prys, Pwllheli, Gwynedd, mewn llythyr yn .
  • Dydi hi'n syndod deudwch, bod cyn lleied o gwffio ar faes Steddfod? - Lowri Rees-Roberts, Golygydd WA-w! yn rhifyn mis Mai yn hel meddyliau am rieni sy'n gwthio'u plant i gystadlu mewn Steddfodau ar drothwy Steddfod yr Urdd .
  • Maen nhw'n gallach nag amryw o bobl mewn oed - Aled Sîon, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn gorffen brawddeg sy'n cychwyn â'r geiriau, "Fe ddwedai hyn wrthych chi am bobl ifainc heddiw . . ." yn rhifyn Mai o WA-w! Dywedodd hefyd mai'r ddihareb gywiraf yw, "Gwyn y gwel y fam steddfodol ei chyw".
  • Fydd telynorion swyddogol Eisteddfod yr Urdd eleni ddim yn mynd 'ar streic' wedi'r cwbl - Geiriau cyntaf prif stori heddiw.
  • Dw i erioed wedi bod mewn Eisteddfod yr Urdd na chymryd rhan felly rwy' wir yn edrych ymlaen at brofi'r wythnos ei hun . . . ac i weld pwy fydd yn gwisgo fy nghoron - Mari Thomas, gwneuthurwraig Coron Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn 'Golwg'.
  • Sawl tad fydd ar ôl ar y Maes yn Felindre am ddau o'r gloch - Madog Mwyn yn ein hatgoffa yn 'Y Cymro' bod digwyddiad ar wahân i Steddfod o bwysi i Abertawe bnawn Llun.
  • Yr oeddem ni'n byw yn Lerpwl am ychydig ac yr oedd Michael yn gefnogwr Lerpwl yr adeg honno ond mae e'n dilyn canlyniadau Abertawe yn awr - Meyrick, tad Michael, Sheen sydd wedi dymuno'n dda o'r America i'r Elyrch yn eu gêm ddydd Llun.
  • Weithiau yr ydym ni'n cael trafodaethau athronyddol yn ystod yr hanner ond gan amlaf yr ydym yn siarad am y bêl-droed - Yr Athro Peter Stead sydd yn un o dri ysgolhaig, gyda'r Athro Huw |Bowen a'r Dr Martin Johnes , a fydd yn gorfod gwneud ymdrech arwrol i gyrraedd Wembley ddydd Llun meddai'r 'Western Mail' gan fod Stead a Bowen yn siarad yng Ngŵyl y Gelli yn y bore.
  • Er pan oeddwn i'n blentyn bach dim ond pêl-droed oedd ar fy meddwl i - Joe Allen o'r Preselau, yr unig siaradwr Cymraeg yn nhîm pêl-droed Abertawe.
  • Mae cyfrifoldeb ar bob un sy'n gallu siarad Cymraeg i'w defnyddio ymhob agwedd o fywyd. Mae'n arbennig o wir o brif lwyfan y llywodraeth - 'Golwg' yn ymateb i'r ffaith mai dim ond un y cant o'r cwestiynau yn y Senedd a ofynnwyd yn y Gymraeg.

  • Mae hi'n ledi fach Gymreig a fyddai wedi bod gant y cant ar y trên - Joe Purcell, a geisiodd fynd â'i ferlen ar drên yn Wrecsam. (Gweler yr wythnos diwethaf)
  • Mae'n beth mor anodd i'w ganfod - Rachel McAdams, cariad Michael Sheen, sy'n chwilio am 'wir gariad' meddai hi.
  • Deuwch, blancwyr Cymru - dewch i blancio - Y gwahoddiad ar 'Planking Wales' a sefydlwyd ar 'Facebook' i gyd-fynd â'r chwiw ddiweddaraf o styllenu.
  • 15 miliwn - nifer y ceir a ddisgwylir ar y ffyrdd dros y penwythnos yn ôl yr AA.
  • Gallodd Mr Jones ein hargyhoeddi fod ganddo'r weledigaeth glir ar gyfer dyfodol S4C - Datganiad gael Aelodau Seneddol yn cymeradwyo penodi Huw Jones yn gadeirydd Awdurdod S4C yn dilyn cyfarfod dau bwyllgor seneddol.
  • Fe fyddwn i wrth fy modd bod yn dad - yn enwedig nawr y gallwn i gadw i fyny â'r plant - Hugh Pae o'r Wyddgrug, gyrrwr lori 22 stôn a gollodd dros saith stôn er mwyn gwella'i iechyd.
  • Mae'r pren yn anodd ei naddu am ei fod mor galed ond fe lwyddais i greu'r gadair ymhen tridiau - Leigh Wells o lanon sydd wedi a phren o goeden fu'n cysgodi bedd Dafydd ap Gwilym.
  • Dydi hwn ddim wedi bod yn gae chwarae gwastad - Gary Speed, rheolwr Cymru, yn anhapus gyda threfniadau gornest Cwpan Carling gan ddweud ei bod yn ffafrio Gweriniaeth Iwerddon a'r Alban.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.