Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwng dwy ŵyl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:33, Dydd Sadwrn, 28 Mai 2011

A dyma gyrraedd Abertawe - neu o leiaf faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011ar safle hen weithfeydd Felindre ar gyrion y ddinas.

Wrth wibio ar yr M4 fyddech chi ddim callach bod unrhyw beth yn digwydd. Dim golwg o faneri coch gwyn a gwyrdd yn unman ar y ffordd - yn wahanol iawn i'r daith i Lannerchaeron y llynedd lle'r oedd pentrefi cyfain a'u baneri'n chwifio.

Efallai y gwellith pethau at y Llun.

Ie, y Llun, a'r sgwrs ymhlith nifer o'r rhai sydd wrth eu gwaith ar y Maes yn paratoi yw ±èê±ô-»å°ù´Ç±ð»å - nid Eisteddfod a'r dyfalu wedi dechrau'n barod faint o encilio fydd yna o'r maes wrth iddi dynnu at y tri o'r gloch 'ma.

Ie, at Wembli mae meddyliau'r ardal hon yn troi a'r ŵyl bêl-droed fydd yno.

Ac mae yna holi'n barod fydd yna sgrin rywle ar y maes i wylio'r ornest fawr - neu dyngedfennol a defnyddio gair gohebwyr chwaraeon.

Byddai'n gam poblogaidd iawn cael un.

Ac mae sibrydion yn dew hefyd y bydd yr Elyrch yn hedfan tua'r Felindre pe byddent wedi cael gwynt dan eu hadain ddydd Llun a phrofi llwyddiant.

Heb os, byddai hwnnw'n ymweliad hynod boblogaidd- ond os mai â'u pennau yn eu plu fyddan nhw go brin y bydd neb eisiau eu hadnabod yn y byd creulon sydd ohoni a hwythau'n hwyaid cloff.

Cawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:43 ar 28 Mai 2011, Henri ysgrifennodd:

    O na! Ddoi i ddim i'r Urdd os oes peldroedion yn debyg o ddifetha'r achlysur hapus hwn. Beth petai cefnogwyr gwyllt Caerdydd ar y maes?

  • 2. Am 18:30 ar 29 Mai 2011, Alun Jones ysgrifennodd:

    Yn siarad fel is-gadeirydd y Pwyllgor Cyhoeddusrwydd ar gyfer yr Eisteddfod eleni, yn anffodus, nid oedd modd i ni rhoi unrhyw faneri ar bontydd yr M4. Mae "bynting" a baneri wedi'i gosod o gwmpas y fro, yn cynnwys baner yn Tesco Fforestfach, a fu'n hynod gefnogol!

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.