Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:15, Dydd Gwener, 10 Mehefin 2011

Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

Ac mae gwahoddiad i chithau anfon rhagor o bethau dwys, difyr a rhyfeddol a glywywyd


  • Bydd craffu mawr ar berfformiad y Cynulliad wrth ddefnyddio'i ddyletswyddau newydd; yma yng Nghymru ac mewn llefydd eraill -
  • Cyfrannau nid 'cyfranddaliadau', sy'n cael eu prynu a'u gwerthu ar y farchnad stoc! Cyfranddalwyr wedyn yw rhywun sy'n 'dal' neu sy'n berchen ar gyfrannau, a chyfranddaliad (shareholding) yw cyfanswm ei 'ddaliad' o gyfrannau mewn cwmni penodol -
  • Dydy ni ddim yn mesur llwyddiant yr Eisteddfod yn ôl faint sy'n dod trwy'r gât - Efa Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr yr Urdd yn ymateb i'r ffaith i lai ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni na Llanerchaeron y llynedd.
  • Latte tal tenau a mocha siocled gwyn - mae staff Starbucks yn Wrecsam yn dysgu Cymraeg ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r dref.
  • Gyda chyflymdra rhyfeddol yr ydym yn cael ein tynghedu i bolisïau tymor hir radical na phleidleisiodd neb drostyn nhw - Archesgob Caergaint, Rowan Williams, am bolisïau llywodraeth glymblaid Cameron.
  • Yr ydw i'n llwyr anghydweld â llawer o'i safbwyntiau - David Cameron AS yn ymateb.
  • Yr oedd yn golled ofnadwy i ni ond yn fantais fawr i'r eglwys sefydledig - Rhodri Morgan yn y 'Western Mail' yn pwyso a mesur penodiad Rowan Williams yn Archesgob Caergaint.
  • Deg ar hugain o seddau, pum mlynedd, ni all yr un o'ch aelodau chi fod oddi yma . Byth. Chi ydy'r Llywodraeth, bydd yn rhaid ichi fod yma, dydi'r wrthblaid ddim wedi ei chlymu â'r un realaeth - Jocelyn Davies AC, dirprwy arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad.
  • Yr ydych chi yn mynd ar wyliau. Gall yr wrthblaid fynd ar wyliau. Wel, mae hynny'n iawn felly - Carwyn Jones AC y Prif Weinidog yn ymateb.
  • Mae fy asesiad i o hyn yn fy arwain i'r casgliad na ddylai fod yna oedi'n rhy hir cyn i ymgyrch yr arweinyddiaeth ddigwydd - Cynog Dafis, Plaid Cymru, yn mynd i'r afael a dyfodol Ieuan |Wyn Jones AC yn y 'Western Mail' heddiw.
  • Shambls llwyr - Eleanor Burnham, cyn AC y Democratiaid Rhyddfrydol,
  • Dydw i ddim yn sicr y dylwn i gyfaddef hyn ond fe wnes i freuddwydio am Eleanor Burnham ar y noson cyn agoriad y Cynulliad - Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y Ö÷²¥´óÐã yn ei flog.
  • Mae ffrindiau a chydweithwyr yn gweddïo'n barod am ddychweliad y wardeiniaid, rhywbeth na fyddech chi byth yn disgwyl clywed amdano - Un o drigolion Aberystwyth lle mae'n 'hunllef' parcio ers cael gwared â wardeiniaid traffig.
  • Bydd eu tÅ· ar Ynys Môn yn parhau yn brif gartref y cwpwl - Llefarydd o Balas Sant Iago ar ran William a Kate a fydd yn rhannu eu hamser rhwng Llundain a Môn.


  • Bydd profiad eang Huw a'i wybodaeth ddofn o fyd darlledu o fantais enfawr i S4C - Rheon Tomos, dirprwy gadeirydd S4C, yn croesawu dewis Huw Jones yn gadeirydd.
  • Gobeithio, fel un o Ogledd Cymru, y bydd Mr Jones yn ceisio sicrhau y bydd y rhanbarth yn cael ei gwasanaethu'n well gan S4C sydd wedi gogwyddo'n ormodol tuag at Gaerdydd dros y blynyddoedd - Golygyddol y 'Daily Post'.
  • Fe fydd yn rhaid iddyn nhw fynd rywdro yn bydd ? - Maureen Morris o Borthcawl lle mae er iddi fod yn ei ddefnyddio yn rheolaidd heb sylweddoli bod nyth yno.
  • Mae rhai ohonyn nhw yn ymddwyn fel gangsters mewn siwtiau - Lindsay Whittle AC Dwyrain De Cymru yn ymateb i godiadau ym mhrisiau y cwmnïau ynni.
  • A yw'r teulu brenhinol yn fodau rhagorach na'r gweddill ohonom? A ydym yn fodau is na nhw? - Paul Flynn AS Casnewydd yn ymateb i'r ganmoliaeth o Ddug Caeredin yn NhÅ·'r Cyffredin ar achlysur pen-blwydd y Dug yn 90 oed.
  • Bydd yn rhaid imi feddwl am enw; os oes gan rywun unrhyw awgrym gadewch imi wybod os gwelwch yn dda - Nigel Owens sydd wedi ei enwi yn .
  • Yr ydw i wedi fy synnu ennill y wobr hon, yn enwedig y cyfnod hwn yn fy mywyd - Carol Vorderman, 50 oed o Brestatyn, yn cael ei henwi yn berchen pen ôl tecaf y flwyddyn.
  • Ma' lot o geffylau wedi eu magu yma, ac mae Celt wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ni'n browd iawn - Paul Murphy am y ceffyl Celt o Sir Benfro sydd .
  • Artaith a phoen - fydd natur hyfforddiant Warren Gatland ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.

Os oes gennych sylw neu gyfraniad defnyddiwch y ffurflen isod

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.