Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Achub Aled (a John efallai)

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Iau, 9 Mehefin 2011

Dydw i ddim yn sicr y dylwn i gyfaddef hyn ond fe wnes i freuddwydio am Eleanor Burnham ar y noson cyn agoriad y Cynulliad. Yn y freuddwyd roedd Eleanor yn gwisgo cythraul o het i guddio'i wyneb a rhyw sut llwyddodd i ymuno a gorymdaith yr aelodau i mewn i'r siambr.

Breuddwyd oedd hi, dwi'n meddwl. Ar y llaw arall dyw Eleanor ddim yn celu'r ffaith ei bod yn awchu dychwelyd i'r Bae tra'n mynnu, wrth reswm, ei bod hi'n cydymdeimlo'n fawr ac Aled Roberts yn ei gystudd.

Sut mae pethau'n sefyll felly? Y peth cyntaf i ddweud yw bod y cloc yn tician. Fe fydd cynigion y Democratiaid Rhyddfrydol i ganiatáu i Aled Roberts a John Dixon cymryd seddi yn y Cynulliad yn cael eu trafod ar ddydd Mercher, Mehefin 29ain. Does dim modd eu gohirio. Os nad yw'r Cynulliad yn eu cymeradwyo fe fydd y ddau allan.

Er mwyn bod ac unrhyw obaith o gario'r dydd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn croesi bysedd y bydd digon o amser cyn y dyddiad cau i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu ac i Gerard Elias QC baratoi'r cyngor cyfreithiol annibynnol sydd wedi ei gomisiynu gan Swyddfa'r Llywydd.

Mae'r amserlen yn dyn ond dim yn gwbwl amhosib ac mae pawb sydd ynghlwm a'r peth yn ymwybodol o'r tic-tocian yn y cefndir.

O gymryd bod y darnau'n disgyn i le cyn y ddwy bleidlais y dasg sy'n wynebu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn argyhoeddi mwyafrif o Aelodau Cynulliad mewn pleidlais rydd i faddau pechodau'r ddau.

Yn hynny o beth mae'n ddiddorol bod pwyslais cynyddol yn cael ei roi ar y gwahaniaethau rhwng y ddau achos. Mae 'na ddau reswm am hynny.

Y rheswm cyntaf yw'r ffaith syml eu bod nhw yn wahanol i'w gilydd. Doedd Aled Roberts ddim yn elwa'n ariannol o fod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisiau. Roedd John Dixon ar y llaw arall yn derbyn lwfans bychan fel aelod o Gyngor Gofal Cymru. Yn bwysicach efallai, mae'n ymddangos bod Aled wedi gwneud llawer fwy o ymdrech i gydymffurfio a'r rheolau a bod ei ai fethiant yn deillio o leiaf yn rannol o gyngor gwallus a methiant i ddiweddaru dolen yn y fersiwn Gymraeg o'r cyngor hwnnw.

Gellir crynhoi ail reswm y blaid dros bwysleisio achos Aled Roberts mewn dau air. Burnham ac Eleanor yw'r geiriau hynny ond nid o reidrwydd yn y drefn honno!

Does dim dwywaith bod Eleanor wedi cael ei brifo'n ddifrifol gan y ffordd y mae'r blaid wedi ei thrin yn ddiweddar neu o leiaf y ffordd y mae Eleanor yn credu iddi gael ei thrin. Dyna sydd wrth wraidd ei sylwadau diweddar ynghylch y blaid ac yn fwyaf arbennig Kirsty Williams.

Pe bai Eleanor yn dychwelyd i'r Bae felly fe fyddai hi ar y gorau yn broblem i Kirsty. Ar y gwaethaf mae rhai yn y blaid yn ofni y gallai hi groesi'r llawr i ymuno a'r Ceidwadwyr neu hyd yn oed Llafur. Ni fyddai Eluned Parrot, yr ail ar restr Canol de Cymru, yn achosi'r un trybini.

Beth fyddai'n digwydd felly pe bai'r ymdrechion i achub Aled yn methu - a dyw pethau ddim yn argoeli'n dda - a fyddai na fodd arall i rwystro ailddyfodiad Eleanor?

Wel yn ddamcaniaethol fe fyddai diarddel Eleanor o'r blaid cyn iddi allu cymryd y llw yn fodd i wneud hynny. Dyna yw'r opsiwn niwclear ond mae'n annhebyg y bydd y botwm coch yn cael ei wasgu. Yn gyntaf, go brin fod 'na ddigon o amser i fynd trwy brosesau disgyblu cymhleth y blaid. Yn bwysicach na hynny mae'n debyg y byddai'r effaith ar ddelwedd gyhoeddus y blaid a'r gwrthdaro mewnol ar lawr gwlad hyd yn oed yn fwy costus na chaniatáu i Eleanor gyflawni'r ddihangfa wleidyddol fwyaf gwyrthiol i mi ei gweld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:35 ar 9 Mehefin 2011, ysgrifennodd Twm:

    £4,000 yn "lwfans bychan"?

    Pethau dim mor wael yn y Bib a mae pawb yn dweud felly.

  • 2. Am 16:05 ar 10 Mehefin 2011, ysgrifennodd Menna Machreth:

    Os yw'n wir bod Aled Roberts wedi derbyn gwybodaeth anghywir yn sgil methiant i ddiweddaru'r wefan Gymraeg, nid ei fai ef yw e. Does bosib y gallai gael ei daflu allan ac y gallent wahaniaethu yn ei erbyn oherwydd ei fod am ddarllen y wybodaeth yn Gymraeg?!?!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.