Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pellach o'r lleuad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:16, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Mae'r rhai hynny a fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 2006 yn dal iu siarad am gyflwr y maes yr wythnos honno..

Fe'i cymharwyd mewn gerwinder caregog o fod yr un radd ai wyneb y lleuad - nid bod gan neb oedd yno brofiad o'r lle anghroesawus hwnnw.

Yn awr bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal eleni ar yr un safle dim rhyfedd bod rhai wedi bod yn holi a ydi o'n dal yr un mor arw ac anghyfforddus dan draed.

A'r newyddion da yw fod wyneb y tir yn llawer llai garw nag oedd ar gyfer y Genedlaethol arall ac mae'r rhan fwyaf o'r stondinau wedi eu gosod ochr yn ochr a ffordd gyda wyneb hollol esmwyth iddi.

Ddylai o ddim y tro hwn a bod yn drech na rhai fydd yn ceisio gwthio coetsus o le i le ac mi wnaeth o ddygymod yn ddigon rhwydd a'r glaw a fu dros y penwythnos a bore Llun.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.