主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Hoff Gerddi Natur

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Glyn Evans | 14:10, Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011

Mae yno frain 鈥 ond roedd yn rhywfaint o syndod i mi bod cyfrol o Hoff Gerddi Natur Cymru yn bosibl heb frain T H Parry-Williams.

Ond dydi'r hen adar castiog, cableddus, croch ddim yn cael eu pig i mewn i鈥檙 ddiweddaraf o gyfrolau Hoff Gerddi Gwasg Gomer.

Hoff Gerddi Natur Cymru. Golygwyd gan Bethan Mair. Gwasg Gomer. 拢7.99.

Dyma chweched casgliad Hoff Gerddi y Wasg sydd eisoes wedi mentro i fyd serch, y Nadolig. digrifwch ac yn y blaen.

Mae鈥檔 prysur ddod yn gyfres ddefnyddiol dros ben yn ogystal 芒 bod yn ddifyr, hawdd troi ati.

Go brin bod angen dweud fod rhywun yn chwilio am ddau beth wrth droi at gyfrolau fel hyn. Mae rhywun yn chwilio am y cerddi hynny y tybia ef ei hun ddylai fod yno ac am y cerddi y mae鈥檙 Golygydd wedi eu hepgor, neu hyd yn oed eu methu. Er, rwy'n credu gyda'r gyfres hon mai pleidlais y bobl yw sail y dewis. Dyna'r drefn ar y cychwyn ta beth.

Gyda phwnc 芒 chymaint o ganu iddo yn y Gymraeg mae cerddi鈥檙 ail ddosbarth yn niferus ac yn wir doeddwn i ddim yn eiddigeddus o gwbl o olygydd oedd yn gorfod cyfyngu ei hun i gant a dau o gerddi mewn maes mor doreithiog.

Ar ben hynny caniataodd iddi ei hun听y diffiniad eangaf posibl o鈥檙 gair natur hefyd a鈥檌 galluogodd i gynnwys ambell i gerdd fel Diwrnod Lladd Mochyn, Y Ci Defaid a Diwrnod Cneifio yn Enlli, na fyddwn i鈥檔 bersonol yn eu hystyried yn gerddi natur o ran fy niffiniad mwy cyfyng i.

Mae ymestyn y ffiniau mor hael yn ei galluogi i gynnwys nifer o gerddi amaethyddol er enghraifft a hefyd yn ei galluogi i gynnwys cerddi sydd ond ar yr wyneb yn ymwneud芒 natur ond mewn gwirionedd yn ddrych neu鈥檔 alegor茂au o weledigaeth eangach bardd megis Difiau Dyrchafael Saunders Lewis, Y Gwyddau R Williams Parry, Y Draenog, Gwenallt a Marwnad yr Ehedydd.

Nid beirniadaeth mo hon gan fod y penderfyniad golygyddol yn cyfiawnhau cynnwys cerddina fyddai ambell un arall wedi eu cynnwys er enghraifft a hynny鈥檔 ychwanegu at gyfoethy gyfrol.

Beth bynnag, mi fyddwn i wedi cynnwysTomi- Yr oedd y gloch wedi canu ers meitin 鈥 Nantlais fel cerdd natur felly be mae hynny鈥檔 i brofi! Yn yr un ysbryd yr oeddwn i wrth fy modd weld cynnwys yma Lle Bach Tlws-鈥渄oedd Idris yn gweled dim byd ond coed 鈥 T Gwynn Jones.

Dim ond 芒 chyn lleied a thair neu bedair o gerddi y byddwn i鈥檔 dadlau ynglyn 芒鈥檜 cynnwys o gwbl 鈥 a chwiw bersonol fyddai鈥檙 sail i hynn 鈥 sy鈥檔 gwneud y flodeugerdd yn eithaf bargen i mi.

Fy syndod mwyaf oedd gwrthod yr hawl i frainT H Parry-Williams "regi a rhwygo . . . a thyngu" yma 听鈥 er bod, yma, frain llai adnabyddus a phoblogaidd Euros Bowen.

Y mae Llyn y Gadair Parry-Williams yma fodd bynnag a sawl 鈥榠wsiwal syspect鈥 arall fel Y Llwynog 鈥 Ganllath o gopa鈥檙 mynydd - R Williams Parry ac oni fyddai hi wedi bod yn braf cael llwynog arall I D Hooson 鈥 a鈥檌 鈥渂en ar bwys ei baflau blin鈥 鈥 yngyfaill iddo.

Mae cynnwys Yr Hebog uwch Felindre- 鈥測n troelli yn nhrobwll anweledig ei ehediad鈥 gan Alan Llwyd a Chudyll Coch I D Hooson 鈥 鈥淒aeth cysgod sydyn dros y waun a chri a chyffro lle bu cerdd鈥 o fewn dalen i鈥檞 gilydd yn peri gwrthgyferbyniad hyfryd i ddarllenydd.

Gellid fod wedi creu trindod ddifyr o ychwanegu Yr Hebog 鈥 鈥淗ed hebog fel dart heibio . . . Nid oes g芒n lle disgynno鈥 -Eifion Wyn.

Trueni yn wir nad oedd lle hefyd i Y Draenog gan y Llwyd -听 "Hugan fel drain amdano鈥 ond y mae Y Draenog, iasol a welodd Gwenallt 鈥渆chdoe ar fy ffordd i Nanteos鈥.

Trueni hefyd na chafwyd lle i Hiraeth am ForgannwgT E Nicholas 鈥 Yn nhawelwch y coedwigoedd Lle mae blodau鈥檔 dod i鈥檞 hoed鈥 鈥 le mae deisyfiad y bardd yn wrthgyferbyniad difyr i鈥檙 鈥渙 olwg hagrwch cynnydd鈥 arferol.

Ond dyna fo, fe allai rhywunfynd ymlaen am byth yn edliw colli hyn a chynnwys y llall. Digon yn y pen draw yw canmol y gyfrol nid yn unig am yr hyn ydyw am ein gyrru ar berwyl y cerddi nas cynhwyswyd hefyd.

O edrych ar bethau o鈥檙 safbwynt hwnnw yr ydych ar eich hennill bob ffordd.

Un peth, ymarferol, a fyddai wedi cyfoethogi鈥檙 casgliad fyddai nodyn am ffynhonnell pob un o鈥檙 cerddi a blwyddyn eu cyhoeddi ac er hwylustod fynegai llinell gyntaf.

I grynhoi: 鈥淐yfrol o hen gyfeillion sydd yma ar un wedd. Fel byd natur ei hun, mae yma bob lliw a llun, yn fawr a bach, yn ddoeth a gwirion, ond mae gan bob un ei werth a鈥檌 briod le,鈥 meddai鈥檙 Golygydd yn ei rhagair.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.