主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Dweud eu dweud

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 12:03, Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2011

Wythnos arallddyfyniadau 鈥 dyma ddetholiad. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .

  • Yr oedd pawb yn wylo. Yr oedd pob un person a ddaeth i fyny i鈥檞 wylio yn wylo 鈥 Christine Williams, mam Shane.

  • Tydy nhw ddim mor gymhleth a hogia鈥檙 ddinas ac yn fy mhrofiad i yn cymryd eu hunain lai o ddifri 鈥 Si芒n James yn rhifyn Rhagfyr o WA-w! yn canu clodydd 鈥榗ogie鈥檙 wlad鈥.Mae hi hefyd yn taranu yn erbyn cerddoriaeth 鈥榩iped鈥 mewn lleoedd cyhoeddus gan holi, 鈥淏e sy鈥檔 bod ar dawelwch dwch?鈥

  • Gwaetha鈥檙 modd dydy tyfu tomatos jest ddim yn ddigon 鈥 Angharad Penrhyn Jones yn ystyried yn 鈥榊 Papur Gwyrdd鈥 yr atebion posibl i argyfwng yr amgylchedd sy鈥檔 鈥渂wnc moesol pwysicaf y ganrif鈥 meddai.

  • Fe fyddwn ni'n dod i hyd i chi, ac fe fyddwn ni'n eich arestio 鈥 yr Arolygydd Gary Smart o Uned Cefnogaeth Awyr De a Dwyrain Cymru yn rhybuddio鈥檙rhai sy鈥檔 anelu golau laser at hofrenyddion.

  • Fe hoffwngodi teulu fy hunan 鈥 cuilio am ychydig a gwneud dim ond treulio鈥檙 blynyddoedd cynnar yna gyda fy mhlant 鈥 Katherine Jenkins yn edrych ymlaen yn y 鈥榃ales on Sunday鈥 at gael plant.

  • Fe wnaeth staff Maggie's . . . helpu fi i weld fod bywyd y tu hwnt i ganser - John Hartson ar achlysur agor canolfan newydd Maggies i ddioddefwyr canser yn Abertawe.

  • Rwy鈥檔 hoffi鈥檙 ffordd mae鈥檙 Cymry mor danbaid am eu chwaraeon 鈥 Matt Smith sy鈥檔 actio Dr Who.

  • Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr honiadau o gamymddygiad o ddifri 鈥 Llefarydd Llywodraeth Cymru yn dilyn stori yn y Daily Telegraph am ymddygiad arholwyr CBAC.听

  • Yr oedd Rhys, fy merch Gracie a minnau yn rhywle diarffordd yng Nghymru. Fe wnaethon ni gynnau tanau a chrwydro yn y gwyllt a dianc rhag popeth 鈥 Anna Friel a fu ar wyliau mewn tipiyng Nghymru gyda Rhys Ifans ei chariad.

  • Dim ond pen draw eich golygon ydi鈥檙 gorwel 鈥 Brawddeg gan ei fam-gu a fu, medd 鈥榊 Cymro鈥, yn sbardun personol i Richard Parks sydd wedi codi miliwn o bunnau i elusen Marie Curie.

  • Llwyddais i ddynwared Cilla Black gan synnu Gareth - Claire Summers a gyflwynodd yn fyw ar 鈥榃ales Today鈥 wobr arwr tawel byd y chwaraeon i Gareth Hughes o Glwb Golff y Rhondda. "Mae e'n meddwl bod pawb yn Y Rhondda yn gallu cyflawni unrhyw beth,鈥 meddai amdano.听听

  • Os ydym am godi safonau ar draws y bwrdd yng Nghymru yr ydym angen gwybod sut mae鈥檔 hysgolion yn perfformio. Mae bandiowrth galon hynny 鈥 Leighton Andrews AC y Gweinidog Addysg.

  • Y perygl yw fod y system yn edrych ac yn teimlo fel tabl cynghrair 鈥 Elaine Edwards, ysgrifennydd cyffredinol UCAC.

  • Roedd llwyth o bobl wedi fy enwebu gan gynnwys Cyngor Llanycil, cyngor plwyf sy鈥檔 ffinio a fy mhentref, Y Parc, ffrindiau fy nhad, fy mos a fy ffrindiau 鈥 Elin Haf Davies, a rwyfodd ar draws dau gefnfor i godi arian at achosion da, sydd wedi ei dewis yn un o鈥檙 rhai fydd yn cario鈥檙 fflam Olympaidd.

  • Byddai o help mawr pe byddai cymdeithas sy鈥檔 galw ei hun yn w芒r, yn tyfu i fyny, ac yn medru cael deialog ar gwestiynau mawr, cymhleth bywyd, megis hunanladdiad a meddyliau briwiedig a鈥檙 ofnau sy鈥檔 ein parlysu 鈥 Y Dr David Enoch, seiciatrydd, yn 鈥榊 Goleuad鈥 yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.