主播大秀

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Tannau Tynion - adolygiad o'r hunangofiant

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Gwyn Griffiths | 07:39, Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2011

Fedra i ddim honni mod i yn adnabod Elinor Bennett Wigley yn dda. Eto, pan ddigwydd inni daro ar ein gilydd mewn Steddfod neu gaffi tua Machynlleth ar ein gwahanol ffyrdd rhwng de a gogledd, mae gw锚n gynnes a 鈥淪ut wyt ti?鈥 serchog ganddi bob amser.

Tannau Tynion. Hunangofiant Elinor Bennett Wigley. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢9.95

Cofiwn ei thad yn dda, gwyddwn am ei doniau cerddorol a鈥檌 bod yn wraig i Ddafydd Wigley.Gwyddwn ychydig am dristwch hanes eu meibion hynaf, Alun a Geraint, a anwyd gyda鈥檙 afiechyd dieflig Sanfilippo ac am farwolaeth y ddau yn eu harddegau cynnar wedi oes fer o ddirywiad cyflym.

Rhoddir lle amlwg i鈥檙 cyfnod dirdynnol hwnnw yn ei chyfrol Tannau Tynion, y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Gwasg Gwynedd.Cawn beth syniad o faint y dioddef o brofodd o ddarganfod natur y salwch, ergyd fuasai wedi llorio鈥檙 rhan fwyaf ohonom.

Cawsant y newydd pan oedd Dafydd ar gychwyn ymgyrch etholiadol yn Arfon 鈥 ymgyrch lwyddiannus fyddai鈥檔 golygu y byddai鈥檔 treulio llawer o鈥檌 fywyd yn Llundain.Profiad poenus tu hwnt i amgyffred ac a gadwyd yn gyfrinach am ysbaid go dda.Mae鈥檙 pwysau i鈥檞 deimlo鈥檔 yr ysgrifennu.

Un peth a gaf yn feichus mewn cyfrolau hunangofiannol yw鈥檙 duedd i gychwyn drwy hel achau鈥檙 teulu.Ar y cyfan dydyn nhw o ddiddordeb i neb ond yr awdur a鈥檌 berthnasau agos.

Ond mae hanes teulu Elinor yn ddiddorol a dadlennol.Hen ewythr iddi oedd y casglwr alawon gwerin, Nicholas Bennett, a hen, hen, ewythr arall iddo oedd Ceiriog.Am linach!A diddorol canfod o ble daeth yr enwau Seisnig fel Bennett, Wigley, Cleaton ac Ingram sy鈥檔 frith yn ardal Llanidloes.

Diddorol hefyd dysgu am ran Cyngor Dosbarth Penllyn 鈥 a鈥檌 thad, Emrys Bennett Owen - yn y frwydr i achub Tryweryn.Mae gwybodaeth fel yna o werth hanesyddol.

Yr oedd ganddi awydd mynd yn gyfreithwraig ac ar 么l graddio yn y gyfraith yn Aberystwyth a chafodd ysbaid yng ngholeg y gyfraith Guildford ond rhoes y gorau i鈥檙 syniad a mynd i鈥檙 Academi Gerdd Frenhinol.Mae hanes ei gyrfa ddisglair fel telynores o statws rhyngwladol yn gyffrous ac fe鈥檌 hadroddir gydag afiaith byrlymus.

Cawn ein tywys i mewn ac allan o鈥檌 gyrfa gerddorol drwy鈥檙 gyfrol.Daw ei blynyddoedd fel mam i bedwar o blant i dorri ar ei gwaith fel telynores.Diddorol darllen iddi gael cyngor i beidio defnyddio鈥檌 henw priod yn broffesiynol gan fod priodasau cerddorion yn dueddol o chwalu!Mantais yr enw Bennett yw ei fod yn dod yn gynnar yn y wyddor!

Daeth ysfa Dafydd Wigley i ddychwelyd i Gymru ac iweithio i gwmni Hoover ym Merthyr a鈥檙 ddau yn 么l i Gymru ac i fwrlwm gwleidyddiaeth leol.Cafodd y ddau ei hethol ar Gyngor Merthyr a cheir hanes y frwydr i sefydlu Ysgol Gymraeg yn y dref 鈥 brwydr galed gyda鈥檙 enwog a gelynieithus John Beale yn Gyfarwyddwr Addysg yno.

Bu peth gwelliant oddi ar hynny, er mai dim ond dwy ysgol gynradd Gymraeg sy鈥檔 y fwrdeisdref o hyd, ac un ohonyn nhw鈥檔 enfawr gyda tua 600 o ddisgyblion.

Wedi marw Alun a Geraint dychwelodd i wneud mwy o berfformio, dysgu telynorion ifainc ac ymddiddori ym maes therapi cerdd.Gydag egni a brwdfrydedd rhyfeddol trodd i faes gweinyddu, comisiynu cerddoriaeth i鈥檙 Delyn, sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias, cyhoeddi 鈥 a thrwy鈥檙 cyfan i gyd drysori鈥檔 hetifeddiaeth.

Mae鈥檔 gresynu, er hynny am ddiffyg mentergarwch ei chyd gerddorion a鈥檜 dibyniaeth ar grantiau.Dywed hefyd fod yn rhaid cadw gwleidyddion ymhell oddi wrth benderfyniadau artistig.

Mae yna stori ddiddorol yngl欧n 芒 fel y bu i Dafydd Wigley roi鈥檙 gorau i arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad.

Addawodd Ieuan Wyn Jones, meddai, mai tros dro y byddai ef yn arweinydd - nes adfer iechyd Dafydd.Pan ddychwelodd, er hynny, gwelwyd fod pethau wedi newid ac y mae鈥檔 sicr y bu i rai aelodau fanteisio ar ei wendid.

A phan benderfynodd geisio dychwelyd i鈥檙 Cynulliad yn 2007 drwy gyfrwng rhestr Gogledd Cymru, dim ond ail oedd ef ar restr Plaid Cymru a chollodd Cymru 鈥渦n o鈥檌 gwleidyddion grymusaf a mwyaf carismataidd鈥.

Elinor sy鈥檔 dweud 鈥 a wna i ddim anghytuno.

Mae yna ddigon o bytiau blasus i鈥檆h goglais.Fel y bu iddi hybu carwriaeth R S Thomas a鈥檌 ddarpar ail wraig; darganfod Catrin Finch a ddaeth flynyddoedd wedyn yn ferch-yng-nghyfraith iddi; a pherswadio鈥檙 Tywysog Siarl i gael telynor neu delynores swyddogol.

Cyfrol ddifyr, hwyliog a phleserus sy鈥檔 werth ei darllen.Cyfrol y dylem ei darllen.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.