Dewi Llwyd a Rhys Jones
Bellach yn ei wythdegau, mae'r cerddor Rhys Jones yn dal i fwynhau cyflwyno ei raglen radio boblogaidd ar foreau Sul.
Fel cyfansoddwr, cyfeilydd, arweinydd a beirniad mae cerddoriaeth o bob math yn apelio ato.
Mae'n cael pleser anghyffredin o weld y disgyblion lu y mae ef a'i wraig, Gwen, wedi eu dysgu, yn llwyddo mewn gwahanol feysydd.
Yng nghwmni Dewi mae hefyd yn bwrw golwg yn ôl ar gyfnod pan oedd gweithgareddau Cymraeg yn ganolog i fywyd rhai o bentrefi'r gogledd ddwyrain.