Blog Radio Cymru
Negeseuon
-
Pam fod yn rhaid dod a thymor 2019/20 i ben!
Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
Naill ai mae COVID19 yn fygythiad ac ni all pobl ymgynnull, neu nid yw’n fygythiad ac fe all pobl ymgynnull. Mae 22 o chwaraewr ar gae, yn ogystal â swyddogion ac eilyddion, yn amlwg yn ymgynnull, ac wrth gwrs mewn cysylltiad agos a’i gilydd.
Bydd gêm a chwaraeir y tu ôl i ddrysau caeedig yn dal i gynnwys cannoedd o bobl yn gweithio yn agos at ei gilydd - rheolwyr, hyfforddwyr, staff meddygol, ball-boys, personél teledu, ac ati.
Mae'r nonsens “y tu ôl i ddrysau caeedig” yn hollol hurt. Nid oes unrhyw un eisiau pêl-droed “y tu ôl i ddrysau caeedig”. Dim ond fel cosb wedi i gefnogwyr gamymddwyn y caiff ei ddefnyddio, am reswm da iawn: mae'n brofiad di-enaid i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr absennol. Peth arall – o adnabod cefnogwyr pêl-droed, mae'n debyg y byddent yn ymgynnull y tu allan i’r meysydd lle mae'r gemau'n cael eu chwarae, “drysau caeedig” ai peidio.
Mae'r syniad y gellir gorffen y tymor yn sylfaenol ddiffygiol - pe bai hyn yn cael ei wneud, byddai'n golygu y byddai chwarter y tymor yn cael ei chwarae o dan amodau hollol wahanol i'r tri chwarter cyntaf, a fyddai'n gwbwl annheg i'r holl dimau. I roi un enghraifft – roedd West Ham i fod i wynebu Aston Villa ar ddiwrnod olaf y…
-
Athroniaeth Albert Camus
Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
“’Rwy’n ddyledus i bêl droed am y cyfan ‘rwy’n ei wybod yn ddiau am foesoldeb a rhwymedigaethau dynol” - na nid fy ngeiriau i, na datganiad athronyddol gen i chwaith.
Mae’r dyfyniad uchod wedi ei gredydu i’r diweddar Albert Camus, sef llenor ac athronydd Ffrengig a enillodd Wobr Nobel am ei waith llenyddol nol yn y pumdegau.
Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth, ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.
Gyda chyhoeddiad ei nofel fawr La Peste (Y Pla) yn 1947 daeth i'w le fel un o brif lenorion yr oes.
Lleolir y nofel yn Oran yn y cyfnod trefedigaethol pan reolwyd y wlad honno gan Ffrainc. Gosodir digwyddiadau'r nofel yn y 1940au gan adrodd hanes bywyd beunyddiol trigolion y ddinas yn ystod pla sy'n ei tharo ac yn torri pob cysylltiad rhyngddi a gweddill y byd.
Ond nid nofel syml yw hon, ond un sy'n adlewyrchu athroniaeth ddirfodol yr awdur, ac yn nofel a gaiff ei hystyried fel un o glasuron llenyddiaeth dirfodaeth.
Be felly, mae hanes nofel… -
Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Mae lleoliad Geirfa Pigion i Ddysgwyr wedi newid.
Mae'r geirfa bellach ar gael ar dudalen y Podlediad - gwasgwch y linc "Darllen Mwy" o dan y ffeil sain sy'n chwarae.
-
Cynghrair y Cenhedloedd 2020
Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
A dyna ni, ymgyrch newydd ar fin cychwyn gyda Chymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, Bwlgaria a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Llwyddodd Cymru i guro’r Weriniaeth adref ac i ffwrdd yng nghystadleuaeth agoriadol y Gynghrair - gan weld buddugoliaeth swmpus a pherfformiad grymus a sicrhaodd fuddugoliaeth o bedair gôl i un yng Nghaerdydd, a dilyn hyn gyda buddugoliaeth arall o un gôl i ddim yn Nulyn.
Erbyn heddiw, mae Cymru wedi sefydlu ei hun yn yr unfed safle ar ddeg yn rhestr detholion FIFA tra mae’r Weriniaeth yn y drydydd safle ar hugain. Diddorol fyddai gweld os fydd blaenwr…
-
Jordan Hadaway, rheolwr ifanc Caerwys
Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
Nid rhywbeth arferol ydi cael eich gwahodd i weithio fel hyfforddwr i Real Madrid. Ond dyna’r hyn ddigwyddodd i hyfforddwr ifanc o Dreffynnon yn ddiweddar.
Yn wythnosol, rheolwr tîm pêl droed Caerwys yn uwch gynghrair gogledd ddwyrain Cymru ydi Jordan Hadaway, ac mae eisoes wedi tynnu sylw wrth iddo gael ei enwebu fel y rheolwr ieuengaf ar dîm pêl droed chwaraewyr hÅ·n.
Myfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl yw Jordan, sy’n hyfforddi Caerwys ganol wythnos ac yn y gemau ar ddydd Sadwrn. Yna, yn dilyn ymweliad a chyfres o ddarlithoedd a sesiynau hyfforddi yng nghanolfan ymarfer Real Madrid yn Sbaen,… -
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 5ed o Chwefror 2020
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Beti A'i Phobol - John Gwyn Jones
Prif Weithredwr - Chief Executive
Y Dwyrain Pell - The Far East
ysgolion rhyngwladol - international schools
ymuno â - to join
yn grwt - yn fachgen
glöwr - coal miner
dan ddaear - underground
fy nghodi - my upbringing
mwyafrif - majority
rhannu fy mhrofiad i - share my experienceJohn Gwyn Jones o Frynaman Ucha oedd gwestai Beti George. Mae John yn Brif Weithredwr…
-
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 29ain o Ionawr 2020
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Galwad Cynnar - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - The National Trust
arfordir - coastline
tirfeddiannwr - landowner
elusen amgylcheddol - environmental charity
grym gwleidyddol - political power
Prif Weithredwr - Chief Executive
canolbwyntio - to concentrate
sicrhau mynediad - to secure access
y degawd nesa - the next decade
sylweddol - substantial125 o flynyddoedd yn ôl prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eu…
-
Pedwaredd Rownd Cwpan Cymru JD
Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
Mae’n benwythnos Cwpan Cymru JD eto gyda gemau diddorol ar hyd a lled y wlad.
Bydd dwy gêm yn cael eu cynnal rhwng timau o Uwch gynghrair JD Cymru sef y Seintiau Newydd ac Aberystwyth - gem a fydd o bosibl yn gweld y Seintiau yn camu ‘mlaen i rownd yr wyth olaf, tra fydd Pen y Bont yn wynebu Coleg Met Caerdydd - y Coleg i ennill efallai?
Fodd bynnag, fy newis i o’r gemau ydi honno yn Abertawe ble fydd tîm y Brifysgol sydd ar frig Cynghrair De Cymru yn chwilio am fuddugoliaeth dros Brestatyn, sydd eu hunain yn gosod safon uchel ar frig Gynghrair Gogledd Cymru.
Ail agos i fod yn gêm y rownd yw…
-
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 22ain o Ionawr 2020
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Geraint Lloyd - Rhiannon Davies
aelodau - members
Cadeirydd - Chair
Y Pwyllgor Rhyngwladol - the International Committee
poblogaidd iawn - very popular
am yn ail flwyddyn - every other year
cyfleon - opportunities
blynyddoedd maith - many years ago
lledaenu - to spread
cyfweliad - interview
cyfrwys - craftyMae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnig sawl cyfle i'r aelodau deithio dramor. Nos Fawrth cafodd Geraint Lloyd wybod mwy am hyn drwy sgwrsio…
-
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 16eg o Ionawr 2020
Geirfa Podlediad i Ddysgwyr
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Stiwdio - John Alwyn Griffiths
Dan Law'r Diafol - Under The Devil's Hand
cyhoeddwyd - was published
eich gyrfa gyfan - throughout your career
mynd i'r afael - to get to grips with
ymchwil - research
cam wth gam - step by step
ymholiadau - enquiries
alla i ddychmygu - I can imagine
am gyfnod hir - for a long period
ddim yn gwneud llawer o synnwyr - does not make much senseRoedd John Alwyn Griffiths yn arfer gweithio fel plismon ond erbyn hyn mae o'n…