Fel cyn archdderwydd a chyn gofiadur mae lle amlwg wedi bod i John Gwilym Jones yn Eisteddfodau'r tri degawd diwethaf.
Bu'n weinidog ar Eglwys Annibynnol Pendref ym Mangor am ddeugain mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd y gadair ym mhrifwyl Bro Ddyfi ym 1981.
Bellach mae wedi ymddeol ac ar ol ymgartrefu ym Mheniel, sir Gaerfyrddin, mae'n falch o fod yn nes at ei fro enedigol, ac at ei dri phlentyn a'u teuluoedd.
Yn ei sgwrs a Dewi mae'n ceisio egluro pam fod barddoniaeth yng ngwaed teulu Parc Nest, a pham nad oes angen gair o gyngor ar ei frawd mawr yn ei Eisteddfod gyntaf fel archdderwydd.
Mae John Gwilym yn dweud nad oes fawr ddim yn ei wylltio a'i fod yn ymhyfrydu yn y ffaith fod y diwydiant llyfrau Cymraeg mor gynhyrchiol ar hyn o bryd.
Fel un a fu'n gapten ar dim rygbi Cymru yn y chwedegau, ac wedyn yn hyfforddwr cyn dod yn un o bwysigion yr Undeb, roedd Clive Rowlands heb os yn un o gewri'r gem.
Mae'n son wrth Dewi am ei deithiau i bedwar ban byd nid yn unig gyda'r tim cenedlaethol ond gyda'r Llewod hefyd.
Fe ddaw ei gariad at Gwmtwrch, ei bentref genedigol lle mae'n dal i fyw, yn amlwg.
Yn ystod y sgwrs mae'n cyfeirio hefyd at ei gyfnod yn cyflawni gwasanaeth cenedlaethol ac am ei frwydr yn erbyn canser.
Nid yn annisgwyl mae ganddo farn gref am gyflwr y gem heddiw, ac am y chwaraewr gorau erioed, ond mae'n mynegi ei bryder hefyd fod gormodedd o rygbi ar y teledu erbyn hyn.
Canwr, actor, cyfieithydd, cyfarwyddwr, ac yn annisgwyl efallai, tyddynwr! Mae Bryn Fôn yn brysur ym mhob un o'r meysydd hynny.
Yn ei sgwrs â Dewi mae'n son am ei waith ar hyn o bryd gyda Chwmni Bara Caws, ac yn hel atgofion hefyd am y gyfres anfarwol C'mon midffild, ei arestio fel rhan o ymgyrch Meibion Glyndwr, y canu wythnosol a helbulon cadw defaid.
Mae'n cloi gyda gair o gerydd i benaethiaid S4C. Mae'n cychwyn drwy sôn am ei sul arferol.
Wedi blynyddoedd lawer fel cynghorydd sir a dosbarth, bu Betty Williams yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Conwy am dair blynedd ar ddeg cyn iddi ymddeol yn 2010.
Yn ystod ei sgwrs â Dewi mae'n hel atgofion am y cyfnod hwnnw pan oedd ei phlaid mewn grym.
Mae'n lleisio barn am y ddau brif weinidog Tony Blair a Gordon Brown, ac yn son hefyd am ei hymdrech i gyfuno gwaith a bywyd teuluol.
Mae'n egluro hefyd pam y penderfynodd ymddeol gan awgrymu fod a wnelo gorsaf drenau Crewe a hynny!
Cawn glywed am bwysigrwydd ei chefndir yn y capel ac am ei phrofiadau fel myfyrwaig aeddfed. Mae'n son yn gyntaf am ei Sul arferol.
Mae'r amaethwr Syr Meuric Rees yn berchen ar dair fferm yn ardal Tywyn, yn ne Meirionnydd, ac fel y bu'n son wrth Dewi mae'n dal i oruchwylio'r gwaith yno er ei fod bellach ymhell dros ei bedwar ugain oed.
Cafodd ei urddo'n farchog yn rhannol am iddo gyfrannu am flynyddoedd lawer tuag at lwyddiant y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mae hefyd wedi gwasanaethu ar amryfal bwyllgorau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Cyngor Darlledu Ö÷²¥´óÐã Cymru.
Bu hefyd yn ynad heddwch ac am ddeng mlynedd yn Arglwydd Lefftenant Gwynedd.
Mae ei deulu, ei fro a'i gapel yn hollbwysig iddo. Mae'n dechrau'r sgwrs drwy son am ei Sul arferol.