Dewi Llwyd a Meic Povey
Meic Povey yw un o ddramodwyr amlycaf ei genhedlaeth, ac ers y saithdegau, mae wedi llwyddo i gynhyrchu gwaith gafaelgar ar gyfer y theatr a'r teledu.
Ar hyn o bryd mae S4C yn darlledu'r drydedd gyfres o 'Teulu' sydd, fel y ddwy arall, wedi ei sgriptio gan Meic.
Ond cyn iddo ddechrau canolbwyntio ar ysgrifennu, fel actor y daeth i amlygrwydd ar lwyfan ac ar deledu, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae'n dal i ystyried ei gyfnod fel un o gymeriadau'r gyfres 'Minder' fel un o uchafbwyntiau ei yrfa.
Efallai mai dramodydd arall, Gwenlyn Parry, oedd y dylanwad pennaf arno wrth i'r ddau gyd-weithio yn nyddiau cynnar 'Pobl y Cwm'.
Yng Nghaerdydd y mae ei gartref ers degawdau bellach ond fe'i magwyd yn Nant Gwynant a Garndolbenmaen, ac mae'n cyfleu caledi'r cyfnod hwnnw yn ei hunangofiant hynod ddarllenadwy 'Nesa peth i ddim'.
Yn hwnnw, fel yn ei sgwrs a Dewi, mae Meic yn son am y boen ddirdynnol o golli ei wraig Gwen. 'Does gan Meic ddim i'w ddweud wrth grefydd, ac ar y Sul, mae wrth ei fodd yn coginio ar gyfer gweddill y teulu.